Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir Mae Awdurdod Gwella (yr Alban) wedi amcangyfrif bod Awdurdodau Lleol yr Alban yn gwario £6-8 miliwn bob blwyddyn i gyhoeddi hysbysiadau statudol mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol. Mae hysbysiadau statudol yn cynnwys ymgynghoriadau cynllunio, hysbysiadau gwaith priffyrdd, ymgynghoriadau'r GIG, hysbysiadau cyhoeddus yr Awdurdodau Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub a datganiadau cyfrifon.
Mabwysiadu Dulliau Ataliol Trawsgrifiad fideo [PDF 176KB Agorir mewn ffenest newydd] Cafodd y seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru a Rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed y Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. Fe wnaeth Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, rhoi’r araith gywiernod yn y ddau seminar. Roedd y seminar wedi ei anelu at arweinwyr strategol gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys:
Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2012 ac roedd yn cynnwys amrediad o siaradwyr diddorol yr oeddent yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cynnig eu syniadau ar sut allwn ni ymdopi a ffynnu yn ystod cyfnod o galedi. Mae Cymru'n wlad fechan. Ond mae'n rhaid iddi gael syniadau mawr o ran gwasanaethau cyhoeddus.
Dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru Dywedodd Prif Weinidog Cymru, ynghylch cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2011-2016, 'Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon'. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ddatblygu cynaliadwy ar gyfer:
Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus - Seminar 2 Roedd gan wahanol sefydliadau sy’n gysylltiedig â thema’r seminar, gan gynnwys Hafal, Mind Cymru a Galw Iechyd Cymru, stondinau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a rhannu arfer da. Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Awdurdodau’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn bresennol. Y siaradwr gwadd oedd Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyflwyniadau gan ymarferwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol, y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gofal Iechyd.