Seminar Ymddiriedolwyr Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru cynnal seminar rhyngweithiol rhad ac am ddim, er mwyn dod ynghyd â'r arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis o ddulliau gwahanol, a'u haddasu er mwyn gweddu i'w anghenion eu hunain, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy â llai. Gellir gwylio y cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Y Rhyddid i Arwain 2013 Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2013 ac roedd yn cynnwys llu o siaradwyr diddorol o gyn belled â Seland Newydd a Brwsel yn ogystal ag yma yn y DU, pob un un cynnig ei safbwynt ei hun ar sut allwn ni ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn y cyfnod newydd hwn. Mae'r adran ganlynol yn cynnwys yr holl allbynnau allweddol o'r gynhadledd gan gynnwys copïau o'r cyflwyniadau a chyfweliadau fideo allweddol o'r digwyddiad.