Tendrau a chontractau
Main navigation
Main navigation
Cyflenwi Archwilio Cymru
Mwy o wybodaeth am sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau a chynyddu eich siawns o wneud cais am waith.
Cyfleoedd contract
Mae ein cyfleoedd contract ar gael trwy GwerthwchiGymru, gwefan gaffael genedlaethol Cymru.
Mae GwerthwchiGymru yn cynnwys yr holl gyfleoedd contract a hysbysebir yn eang sydd uwchlaw ac oddi tan trothwyon yr UE. Mae ganddo hefyd gysylltiad uniongyrchol â'r Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr (FTS) lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau sy'n uwch na throthwyon yr UE.
Rydym yn eich annog fel cyflenwr i gofrestru ar GwerthwchiGymru. Mae'r manteision yn cynnwys:
- cofrestru am ddim a mynediad i'r safle
- defnyddio Canfod Cyflenwyr, i hyrwyddo eich cwmni i brynwyr
- rhybuddion e-bost am gyfleoedd sy'n cyfateb i'ch busnes
- chwilio am hysbysiadau sector cyhoeddus ac is-gontractau
- cyfleoedd i gysylltu â'r sector cyhoeddus a sefydliadau cofrestredig
- mynediad at adnoddau i helpu i ddyfynnu a thendro.
Cofrestrwch yn ôl y categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu cyflenwi, fel mai dim ond hysbysiadau am gyfleoedd contract sy'n berthnasol i'ch maes gwaith chi y byddwch chi'n eu derbyn.
Rhestr Contractau Cylchol
Mae ein Rhestr Contractau Cylchol yn nodi’r contractau hynny y mae Archwilio Cymru yn eu tendro'n rheolaidd. Mae'r rhestr yn nodi'r nwyddau, y cyflenwr/cyflenwyr presennol, y trefniant presennol a'r awdurdod contractio a dendrodd y cytundeb.
Telerau ac amodau ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
Mae ein telerau ac amodau safonol yn berthnasol i bob contract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i Archwilio Cymru. Gallwch ddarllen y telerau ac amodau hyn yn y ddogfen isod.