Cydraddoldeb a hawliau dynol

Mae'n ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddilyn fframwaith amddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae gennym hefyd y cyfrifoldeb i gynnal y confensiynau a amlinellir yn Neddf Hawliau Dynol 1998 [Agorir mewn ffenest newydd]. Rydym wedi ymroi i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ein holl bobl – ein staff a'r rhai rydym yn dod ar eu traws yn ein gwaith, ac rydym yn llwyr gefnogi hawl pobl i gael eu trin ag urddas a pharch.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu ein hymroddiad parhaus i gydraddoldeb ac ein hamcanion cysylltiedig. Mae ein hadroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb ar gael yn yr adran Cyhoeddiadau.

Gwneud addasiadau rhesymol

Mae ein Polisi Addasiadau Rhesymol [PDF 154KB Agorir mewn ffenest newydd] yn egluro ein dull gweithredu i wneud addasiadau ar gyfer pobl sydd â nam ac sy'n nodi y gall y ffordd rydym yn cyflawni ein swyddogaethau fel arall achosi anfantais iddynt. Yn ogystal, rydym yn cydnabod y gall fod angen hefyd addasiadau ar unigolion â nodweddion gwarchodedig eraill.

Os yw’n debygol y bydd arnoch angen unrhyw addasiadau wrth ddelio â ni, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am y math o newidiadau y credwch efallai y bydd arnoch angen i staff Swyddfa Archwilio Cymru (neu bersonau sy'n darparu gwasanaethau i Swyddfa Archwilio Cymru) yr ydych yn delio â hwythau.

Asesiadau effaith

Rydym hefyd wedi rhoi trefniadau ar waith ar gyfer asesu effaith tebygol polisïau ac arferion perthnasol yn ein sefydliad  ar ein gallu i fodloni’r ddyletswydd gydraddoldeb cyffredinol [Agorir mewn ffenest newydd] ac i gynnal y Confensiynau Hawliau Dynol.

Mae ein hasesiadau'n canolbwyntio ar y cwestiynau canlynol:

  • A oes unrhyw botensial ar gyfer gwahaniaethu neu effaith andwyol ynglŷn â'r Ddyletswydd Gydraddoldeb Cyffredinol, neu ar gyfer torri hawliau dynol?
  • A ydym wedi manteisio ar bob cyfle i waredu ar wahaniaethu, i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, i feithrin cydberthnasau da, ac i gefnogi hawliau dynol?

Wedyn, rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar ein hasesiadau o bolisïau ac arferion sy'n arbennig o berthnasol.

  1. Cynllun Arfarnu Perfformiad [PDF 200KB Agorir mewn ffenest newydd]
  2. Polisi ynghylch absenoldeb rhiant a rennir a thâl rhiant a rennir [PDF 112KB Agorir mewn ffenest newydd]
  3. Polisi Galluogrwydd [PDF 165KB Agorir mewn ffenest newydd] 
  4. Polisi Addasiadau Rhesymol [PDF 99KB Agorir mewn ffenest newydd]