Dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru

13 Ionawr 2014
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf fydd yn rhoi dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

    Dywedodd Prif Weinidog Cymru, ynghylch cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2011-2016, 'Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon'.

    Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ddatblygu cynaliadwy ar gyfer:

    • Gwneud datblygu cynaliadwy yn ganolbwynt i bob gweithgaredd a phenderfyniad sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, a gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru;
    • Creu corff datblygu cynaliadwy annibynnol i Gymru.

    Mae'r Mesur Datblygu Cynaliadwy a gynigwyd yn anelu i gryfhau'r ymrwymiad a'i gosodwyd allan yn 'Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned' drwy ei newid i fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol. Bydd hyn yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus i:

    •  gymryd dull hirdymor;
    •  gyd-weithio'n well;
    •  defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau fel eu bod yn darparu'r gwerth gorau i'r bobl y maent yn gweini arnynt ar hyn o bryd yn ogystal â'r rheiny yn y dyfodol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad ydyw eisiau dull 'ticio bocsys' ar gyfer cydymffurfio, na chwaith ydyw eisiau ychwanegu baich diangen at fiwrocratiaeth.

    Mae'r cynigion yn cynnwys rôl craffu i Archwilydd Cyffredinol Cymru a gall gynnwys cyfrifoldeb i gyflawni arholiadau datblygu cynaliadwy.

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod goblygiadau sylfaenol y cynigion yma, megis 'gwerth am arian, gwneud penderfyniadau strategol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus ac i archwiliadau cyhoeddus. Ar 25ain Hydref trefnodd Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn briffio i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth ar y ddeddf sydd ar ddod ac i roi cyfle i drafod y goblygiadau. Mynychodd Archwilydd Cyffredinol Cymru'r sesiwn, ynghyd â thua 50 o staff yng Nghaerdydd ac Ewlo yn Abertawe drwy gynhadledd fideo.

    Prif siaradwyr y digwyddiad oedd Rhodri Asby o Lywodraeth Cymru a Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy i Gymru. Rhoddodd Rhodri Asby ddiweddariad ar gynnydd drafftio'r Papur Gwyn, sy'n bwnc ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd. Ewch manylion am yr ymgynghoriad [Agorir mewn ffenest newydd].

    Amlinellodd Peter Davies y cynigion ar gyfer corff datblygu cynaliadwy a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu perthynas weithio agos â Swyddfa Archwilio Cymru.

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details