Seminar sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd Darllen mwy about Seminar sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Sefydliadau'r Trydydd Sector, GIG, Comisiwn Pobl Hyn Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad. Amcanion y seminar oedd:
Arwain Sefydliadau ar Adeg Anodd Darllen mwy about Arwain Sefydliadau ar Adeg Anodd Sylfaenydd a phrif swyddog gwyddonol 'Cognitive Edge' yw'r Athro Snowden. Mae ei waith yn rhyngwladol o ran natur, ac mae'n cwmpasu llywodraeth a diwydiant sy'n edrych ar faterion cymhleth yn ymwneud â strategaeth, gwneud penderfyniadau sefydliadol a gwneud penderfyniadau. Mae wedi paratoi dull, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, i sefydliadau dynnu ar anthropoleg, niwrowyddoniaeth a theori systemau addasol cymhleth. Mae'n brif siaradwr poblogaidd ac angerddol ar amrywiaeth o bynciau, ac mae'n adnabyddus am ei sinigiaeth bragmatig a'i arddull eiconoglastig.
Seminar ar Reoli Adeiladau Darllen mwy about Seminar ar Reoli Adeiladau Trawsgrifiad fideo [PDF 169KB Agorir mewn ffenest newydd] Cynhaliwyd seminar yn rhad ac am ddim ar Reoli Adeiladau gan Swyddfa Archwilio Cymru, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac Arfer Da Cymru. Roedd y seminar yn dwyn ynghyd yr arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr wedi rhannu a dysgu dulliau gwahanol o ran rheoli adeiladau, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.
Seminar Goleuni ar Graffu Darllen mwy about Seminar Goleuni ar Graffu Trawsgrifiad fideo [Word 21KB Agorir mewn ffenest newydd] Mae gan graffu rôl allweddol o fewn hunan-reoleiddio a hybu gwelliant, effeithiolrwydd a chydweithio ledled gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn gynyddol wir yn achos ymateb i'r her o'r sefyllfa ariannol fyd-eang, tra ar yr un pryd yn parhau i geisio gwella gwasanaethau. Ond a yw craffu yn cael effaith? Ydych chi'n cael gwerth am arian? A sut ydych chi'n gwybod hynny?
Seminar Gweithio Ystwyth Darllen mwy about Seminar Gweithio Ystwyth Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar. Hefyd gellir gweld syniadau o’r dydd a rannwyd ar Twitter [Agorir mewn ffenest newydd].
Seminar Gweithio ar Draws y Cenedlaethau Darllen mwy about Seminar Gweithio ar Draws y Cenedlaethau Roedd y seminar yn anelu at fynd i'r afael â materion gweithlu cyffredin sy'n wynebu sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar. Roedd y seminar wedi ei anelu at rolau o fewn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, yn arbennig:
Seminar Defnydd Effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth Darllen mwy about Seminar Defnydd Effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth Trawsgrifiad Fideo [169KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cymru'n cyd-dynnu: cynnwys pobl, gwella perfformiad Darllen mwy about Cymru'n cyd-dynnu: cynnwys pobl, gwella perfformiad Trawsgrifiad fideo [PDF182 Agorir mewn ffenest newydd] Roedd y digwyddiad hwn yn dod â rheolwyr y sectorau at ei gilydd i rannu arferion da a thrafod ffyrdd ymarferol i'r sefydliadau ddatblygu gweithlu sy'n arbennig o ymgysylltiol. Roedd yr uwchgynhadledd hon ar gyfer arweinwyr a rheolwyr busnes o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yng Nghymru. Mae'n bosib fod y digwyddiad hefyd yn fanteisiol i weithwyr proffesiynol o'r meysydd canlynol:
Seminar Ymddiriedolwyr Darllen mwy about Seminar Ymddiriedolwyr Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru cynnal seminar rhyngweithiol rhad ac am ddim, er mwyn dod ynghyd â'r arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis o ddulliau gwahanol, a'u haddasu er mwyn gweddu i'w anghenion eu hunain, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy â llai. Gellir gwylio y cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Y Rhyddid i Arwain 2013 Darllen mwy about Y Rhyddid i Arwain 2013 Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2013 ac roedd yn cynnwys llu o siaradwyr diddorol o gyn belled â Seland Newydd a Brwsel yn ogystal ag yma yn y DU, pob un un cynnig ei safbwynt ei hun ar sut allwn ni ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn y cyfnod newydd hwn. Mae'r adran ganlynol yn cynnwys yr holl allbynnau allweddol o'r gynhadledd gan gynnwys copïau o'r cyflwyniadau a chyfweliadau fideo allweddol o'r digwyddiad.