Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2012 ac roedd yn cynnwys amrediad o siaradwyr diddorol yr oeddent yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cynnig eu syniadau ar sut allwn ni ymdopi a ffynnu yn ystod cyfnod o galedi. Mae Cymru'n wlad fechan. Ond mae'n rhaid iddi gael syniadau mawr o ran gwasanaethau cyhoeddus.
Dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru Dywedodd Prif Weinidog Cymru, ynghylch cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2011-2016, 'Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon'. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ddatblygu cynaliadwy ar gyfer:
Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus - Seminar 2 Roedd gan wahanol sefydliadau sy’n gysylltiedig â thema’r seminar, gan gynnwys Hafal, Mind Cymru a Galw Iechyd Cymru, stondinau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a rhannu arfer da. Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Awdurdodau’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn bresennol. Y siaradwr gwadd oedd Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyflwyniadau gan ymarferwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol, y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gofal Iechyd.
Seminar sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Sefydliadau'r Trydydd Sector, GIG, Comisiwn Pobl Hyn Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad. Amcanion y seminar oedd:
Arwain Sefydliadau ar Adeg Anodd Sylfaenydd a phrif swyddog gwyddonol 'Cognitive Edge' yw'r Athro Snowden. Mae ei waith yn rhyngwladol o ran natur, ac mae'n cwmpasu llywodraeth a diwydiant sy'n edrych ar faterion cymhleth yn ymwneud â strategaeth, gwneud penderfyniadau sefydliadol a gwneud penderfyniadau. Mae wedi paratoi dull, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, i sefydliadau dynnu ar anthropoleg, niwrowyddoniaeth a theori systemau addasol cymhleth. Mae'n brif siaradwr poblogaidd ac angerddol ar amrywiaeth o bynciau, ac mae'n adnabyddus am ei sinigiaeth bragmatig a'i arddull eiconoglastig.
Seminar ar Reoli Adeiladau Trawsgrifiad fideo [PDF 169KB Agorir mewn ffenest newydd] Cynhaliwyd seminar yn rhad ac am ddim ar Reoli Adeiladau gan Swyddfa Archwilio Cymru, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac Arfer Da Cymru. Roedd y seminar yn dwyn ynghyd yr arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr wedi rhannu a dysgu dulliau gwahanol o ran rheoli adeiladau, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.
Seminar Goleuni ar Graffu Trawsgrifiad fideo [Word 21KB Agorir mewn ffenest newydd] Mae gan graffu rôl allweddol o fewn hunan-reoleiddio a hybu gwelliant, effeithiolrwydd a chydweithio ledled gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn gynyddol wir yn achos ymateb i'r her o'r sefyllfa ariannol fyd-eang, tra ar yr un pryd yn parhau i geisio gwella gwasanaethau. Ond a yw craffu yn cael effaith? Ydych chi'n cael gwerth am arian? A sut ydych chi'n gwybod hynny?
Seminar Gweithio Ystwyth Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar. Hefyd gellir gweld syniadau o’r dydd a rannwyd ar Twitter [Agorir mewn ffenest newydd].