Trawsgrifiad fideo [PDF 176KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cafodd y seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru a Rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed y Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.
Fe wnaeth Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, rhoi’r araith gywiernod yn y ddau seminar.
Roedd y seminar wedi ei anelu at arweinwyr strategol gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys:
- Prif Weithredwyr;
- Cyfarwyddwyr Cyllid;
- Penaethiaid Gwasanaethu; a
- Gwasanaethau Corfforaethol.
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar ymyraethau a pholisïau ataliol, gan ystyried gwasanaeth cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn hytrach na sefydliadau unigol. Mae atal ac ymyrraeth cynt yn thema allweddol o’r Gyllideb 2014-15 ac mae buddsoddi nawr er mwyn arbed yn y dyfodol yn flaenoriaeth gyffredin ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth roi’r newidiadau hyn ar waith, fe berir heriau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Drwy dynnu ar astudiaethau achos arfer da sydd eisoes yn bodoli ar hyd a lled Cymru a’r DU, fe wnaeth y seminar hwn hwyluso sgyrsiau agored a gonest am wirionedd newid pwyslais ac adnoddau. Mae hefyd yn un o egwyddorion allweddol y Bill Cenedlaethau’r Dyfodol arfaethedig.
Erbyn iddynt adael y seminar, roedd gan y cynrychiolwyr ganllawiau pellach a mewnwelediad i ddatrysiadau ymarferol wedi’u mabwysiadau o lefydd eraill.
Roedd y seminar yn cynnwys sesiynau arddangos:
-
Cyflwyniad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth – Lesley Griffiths AC
Prif araith -
Cyflwyniad gan Bromford – Paul Taylor [PDF 2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Sesiwn lawn arddangos
A dewis o fynychu dau o’r canlynol:
-
Gweithdy gan Ganolfan Triniaeth Alcohol Caerdydd – Wayne Parsons a Sean Maidment [PDF 133KB Agorir mewn ffenest newydd]
Canolfan Triniaeth Alcohol Caerdydd -
Gweithdy gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Chris Davies a Rob Quin [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd]
Symud o ymateb i atal -
Gweithdy gan Gyngor Sir Fynwy – Nicola Needle a Simon Birch [PDF 408KB Agorir mewn ffenest newydd]
Rheoli’r galw -
Gweithdy gan Gyngor Gwynedd – Harry Thomas [PDF 2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Rheoli’r galw
Pryd a Ble
6 Mawrth 2014, 0900 – 1300
Stadiwm SWALEC, Sophia Walk, Caerdydd, CF11 9SZ
24 Ebrill 2014, 0900 – 1300
Glasdir, Plas-yn-dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF