Gweminar byw: Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth? Ymunwch â'n gweminar byw i gael gwybod beth sydd gan Raglen Brentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan i'w gynnig. Cyflwynir y rhaglen newydd arloesol hon mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.
Derwyn Owen Fel aelod o’r tîm Gweithredol, mae ganddo brif gyfrifoldeb am arwain ar gyfathrebu, TG, dadansoddeg data, cynllunio ac adrodd (gan gynnwys y cynlluniau blynyddol a 5 mlynedd), archwilio digidol, Newid a Thrawsnewid, arloesi ac arfer da.
Gweminar Byw: Eich Tref, Eich Dyfodol – Adfywio Canol Trefi Mae canol trefi wedi bod wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru ers amser maith. Does dim ots o ble rydych chi'n dod a pha mor hên ydych chi, mae gan bob un ohonom atgofion da o ymweld â chanol ein trefi lleol. Mae canol trefi wedi ac yn parhau i roi gwerth i gymunedau. Maen nhw wedi creu swyddi. Maent wedi rhoi lleoedd i ni wario arian, ymweld a chymdeithasu, yn fangre sydd yn ffurfio rhan o ein hymdeimlad o’n hunaniaeth.