Mae’r gwasanaethau brys yn gweithio orau pan ydynt yn cydweithio

04 June 2021
  • Mae’r gwasanaethau brys ar y rheng flaen o ran ymateb i bandemig y Coronafeirws ond a ydynt yn dysgu o’r profiad ac yn cydweithio’n well i wneud y gorau o’u hadnoddau?

    Nid yw’n bosibl gofalu am lesiant pobl os nad ydym yn ddiogel. Felly mae llawer o ddiddordeb cyhoeddus yn y gwasanaethau brys. Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bawb ohonom; ac mae’r gwasanaethau brys wedi bod ar y rheng flaen o ran ymdrin â’r argyfwng. Bu gan yr Heddlu, y gwasanaethau Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ymatebwyr eraill rôl fawr o ran ymateb i bandemig presennol y Coronafeirws (COVID-19). 

    Yn awr mae gan y gwasanaethau brys rôl yn y camau nesaf o ran adfer o’r pandemig, a thrwy ein gwaith byddwn yn bwrw golwg fanwl ar hyn. 

    Bydd ein hadolygiad yn bwrw golwg ar y cyfleoedd ar gyfer mwy o integreiddio a chydweithio rhwng gwasanaethau a chydag eraill a byddwn yn taflu goleuni ar yr heriau a’r risgiau posibl sy’n eu hwynebu. Byddwn hefyd yn cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â’r sefyllfa mewn gwledydd eraill i ganfod beth sy’n gweithio a pham. Byddwn yn gwneud argymhellion lle y bo’n briodol gan amcanu at gryfhau’r rhwyd sy’n ein cadw ni i gyd yn ddiogel. 

    Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i astudiaeth annibynnol gael ei chynnal o’r holl wasanaethau brys gyda’i gilydd. Mae arnom eisiau rhoi’r sicrwydd i’r cyhoedd a rhanddeiliaid bod gwasanaethau brys yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i’n cadw ni, ein cartrefi a’n busnesau’n saff a diogel yn y dyfodol. 

    Rydym yn gofyn:

    • Beth mae’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’n ei wneud gyda’i gilydd?
    • Pa mor dda y maent yn ei wneud? A hefyd
    • Beth y mae angen iddynt ei wneud yn well yn y dyfodol?

    Rydym yn gwneud hyn mewn dau gam; astudiaeth ddesg o'r holl ddata perthnasol o safbwynt ariannol a pherfformiad yw’r cyntaf. Mae’r cam hwn wedi hen ddechrau. Rydym yn mynd ati fel hyn i leihau unrhyw faich ar ein gwasanaethau brys sydd dan bwysau. Bydd yr ail gam yn dechrau pan fydd pwysau’r pandemig yn ysgafnu.

    Ar ddiwedd yr astudiaeth hon byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar ba mor dda y mae’r gwasanaethau brys yn cydweithio a sut y gallant ddarparu gwerth gwell am arian.

    Ynglŷn â’r awdur:

    Image of Steve Frank

    Mae Steve Frank yn rhannu ei amser rhwng Archwilio Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Bedford ac mae wedi gweithio ym maes archwilio am y 21 mlynedd diwethaf. Treuliodd Steve 10 mlynedd yn gweithio i'r Comisiwn Archwilio gan ddechrau fel arolygydd gwerth gorau a gadael fel Arweinydd Cenedlaethol Diogelwch Tân a Chymunedol. Arweiniodd Steve adolygiadau cenedlaethol o'r gwasanaeth tân ac achub a'r heddlu ar barhad busnes, ansawdd data, gwasanaethau digidol, a defnyddio adnoddau; ac adolygiad o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon. Ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Bedford, mae Steve wedi cwblhau adolygiad yn ddiweddar o'r elw ar fuddsoddiad o gydweithio â Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr, ac mae wedi ail-ganolbwyntio eu Strategaeth Ystadau Tri Gwasanaeth i gymryd ystyriaeth y dysgu o bandemig Covid-19. Ar hyn o bryd mae'n arwain ar asesiad o gynhyrchiant gorsafoedd, prosiect ar sganio'r gorwel yn y tymor hir mewn cydweithrediad â phartneriaid, ac ar hyn o bryd mae'n cynllunio adolygiad o'r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Mae teulu a ffrindiau Steve yn dal i ddweud wrtho am gael bywyd, ond mae'n dweud nad oes ganddo'r amser gan ei fod yn byw'r hyn sy'n cyfateb i ddau fywyd yn barod!