Er bod cerrig milltir uniongyrchol y brechlyn wedi'u cyrraedd, mae angen cynllun tymor hwy sy'n gyfuwch â gwybodaeth am y feirws a'r brechlynnau wrth iddi esblygu, ac yn ystyried sut i gynnal gweithlu cydnerth ar gyfer y brechlyn, gyda lefelau da yn ei dderbyn o fewn y gymuned.
Wrth lunio'r adroddiad hwn, cyfraddau brechu Cymru oedd yr uchaf o blith pedair cenedl y DU, ac roedd y cyfraddau hefyd ymhlith yr uchaf drwy'r byd. Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, ac mae'r holl gerrig milltir wedi'u cyrraedd hyd yma.
Mae'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â gweithredu'r rhaglen wedi gweithio'n dda i sefydlu ystod o fodelau brechu sy'n gwneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i frechu'n nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r gyfradd sy'n derbyn brechlyn yn uchel ar y cyfan, ond ceir pryderon ynghylch y lefelau is ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn cymunedau difreintiedig, yn ogystal â'r nifer nad ydynt yn cyrraedd apwyntiadau wedi'u trefnu.
Cyflenwad y brechlyn yw'r ffactor pwysicaf sy'n effeithio ar weithrediad y rhaglen, ac mae hwnnw'n ddibynnol ar gyflenwad rhyngwladol. Mae'r stoc sy'n cael ei gadw yng Nghymru yn gyfyngedig, felly gallai achosion o darfu ar y cyflenwad gael effaith ddifrifol ar gyflymder gweithredu'r rhaglen.
Hyd yma, mae staff y gweithlu wedi bod yn gweithio y tu hwnt i'w dyletswydd er mwyn bodloni'r galw am frechlynnau. Bellach mae angen i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i weithredu'r rhaglen frechu, gan gynnwys modelau cynaliadwy ar gyfer y gweithlu er mwyn ymateb i'r cyflenwad a'r galw wrth i wasanaethau eraill ailgychwyn.
Ceir llawer o wersi i'w dysgu yn sgil y dull cadarnhaol a ddefnyddiwyd i weithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Dylid ystyried cymhwyso'r gwersi hyn i strategaethau brechu ehangach, ac i'r broses o gyflawni rhaglenni eraill yn GIG Cymru.
Ar ddiwedd Mai 2021:
- Mae 3.3 miliwn o frechiadau wedi'u rhoi yng Nghymru.
- Mae 84.4% o'r 2.52 miliwn o oedolion cymwys wedi derbyn dos cyntaf.
- Mae 66.1% o'r 1.68 miliwn yn y grwpiau blaenoriaeth 'sy'n wynebu risg' wedi derbyn ail ddos.
- Dim ond 0.4% o'r holl frechlynnau a ystyriwyd yn anaddas i'w defnyddio.
- Y gost ar gyfer 2020-21 oedd £29.4 miliwn, ac eithrio'r gost o adleoli staff a chost y brechlynnau.