Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu 'y 7 mlynedd dynnaf o wariant gwasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod ers y Rhyfel', meddai'r Archwilydd Cyffredinol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn siarad yng Nghynhadledd y Rhwydwaith Arweiniad Ariannol yn Stadiwm Dinas Caerdydd (10 Hydref 2013), mae'r Archwilydd Cyffredinol yn amlygu'r gyllideb ddrafft llym a rôl gall Swyddfa Archwilio Cymru chwarae wrth wneud y gorau o adnoddau cyhoeddus.

Bwrdd newydd Swyddfa Archwilio Cymru yn barod am waith

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Fe fydd Isobel Garner, sydd newydd ei hapwyntio fel Cadeirydd, yn llywio'r sefydliad gyda'r Pwyllgor Llywodraethu er mwyn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth iddo gyflwyno'i raglen waith.

Yn ymuno ag Isobel yng nghyfarfod llawn cyntaf y Bwrdd heddiw fydd pedwar aelod anweithredol - Peter Price, Christine Hayes, Steve Burnett a David Corner - yn ogystal ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae llawer mwy o wasanaethau'n symud ar-lein, ond a yw pawb yn teithio ar yr un cyflymder?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Wrth i wasanaethau digidol gyflymu'n sydyn yn ystod y pandemig, efallai y byddai'n werth oedi i fyfyrio ar y ddihareb Affricanaidd; ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’

Proses ddwy ffordd yw gwirfoddoli, sy’n gwneud gwahaniaeth i bawb sy’n gysylltiedig â hi

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gofynnwyd i mi unwaith ystyried rôl fel Prif Weithredwr sefydliad gwirfoddol mawr, cenedlaethol. Atebais ei bod yn ddigon anodd arwain ac ysbrydoli gweithlu cyflogedig a bod yn rhaid ei bod yn llawer mwy anodd arwain gwirfoddolwyr. Bellach, ar ôl dau brofiad grymus o wirfoddoli, y naill yn gwirfoddoli ar ward Hosbis a’r llall, yn fwy diweddar, yn sefydlu Ymateb Cymunedol COVID-19 yn Rhosili, Gŵyr, mae fy marn wedi aeddfedu. Gallaf sefyll yn ôl a myfyrio’n fwy cynhwysfawr ac ystyriol ar werth gwirfoddoli i’n cenedl.

Llyfrgelloedd – mwy na llyfrau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ers ein hedefyn Twitter am wasanaethau llyfrgell yn ôl ym mis Gorffennaf, mae llawer o bethau wedi newid. Mae'r rhestr o bethau rydyn ni'n cael eu gwneud wedi parhau i dyfu'n fwy na'r rhestr o bethau nad ydyn ni'n cael eu gwneud.  Mae cynghorau wedi gallu dechrau meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf, yn hytrach na dim ond gorfod ymateb i'r hyn sydd newydd ddigwydd.