Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae rhoi'r Fframwaith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) ar waith wedi sicrhau rhai gwelliannau, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru ac mae'r cynnydd cyfyngedig wrth fynd i'r afael ag ôl-groniad o heriau ynghylch cymhwysedd i gael GIP yn parhau i beri pryder, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Pan fo rhywun yn gymwys i gael GIP, mae'r GIG yn ariannu'r pecyn llawn o iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ffioedd cartrefi gofal. I rai, gall penderfyniad eu bod yn anghymwys i gael GIP gael effaith ariannol sylweddol arnynt - yn dibynnu ar eu hincwm, eu cynilion a'u hasedau cyfalaf, efallai y bydd rhaid iddynt dalu am unrhyw ofal a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol, megis gofal personol a llety mewn cartref gofal.
Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith diwygiedig ar gyfer GIP sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer oedolion a dyletswyddau Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Daeth adroddiad heddiw i'r casgliad bod y Fframwaith wedi arwain at amryw o welliannau yn y ffordd mae cymhwysedd i gael GIP yn cael ei bennu ond, mewn sawl maes, gwelwyd bod modd gwella'r Fframwaith a monitro ei effaith yn fwy trylwyr. Nid yw rhai agweddau ar y Fframwaith yn ddigon clir ac mae angen canllawiau mwy penodol mewn rhai meysydd, megis sut mae pobl ag anabledd dysgu'n cael eu hasesu.
Pan fo rhywun yn gymwys i gael GIP, mae'r GIG yn ariannu'r pecyn llawn o iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ffioedd cartrefi gofal. I rai, gall penderfyniad eu bod yn anghymwys i gael GIP gael effaith ariannol sylweddol arnynt - yn dibynnu ar eu hincwm, eu cynilion a'u hasedau cyfalaf, efallai y bydd rhaid iddynt dalu am unrhyw ofal a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol, megis gofal personol a llety mewn cartref gofal. Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith diwygiedig ar gyfer GIP sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer oedolion a dyletswyddau Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Daeth adroddiad heddiw i'r casgliad bod y Fframwaith wedi arwain at amryw o welliannau yn y ffordd mae cymhwysedd i gael GIP yn cael ei bennu ond, mewn sawl maes, gwelwyd bod modd gwella'r Fframwaith a monitro ei effaith yn fwy trylwyr. Nid yw rhai agweddau ar y Fframwaith yn ddigon clir ac mae angen canllawiau mwy penodol mewn rhai meysydd, megis sut mae pobl ag anabledd dysgu'n cael eu hasesu. Mae'r gwaith o ariannu GIP yn rhoi pwysau sylweddol ar wariant y GIG yng Nghymru - gwariant a gododd o £66 miliwn yn 2004-05 i £295 miliwn yn 2010-11, cyn gostwng am y tro cyntaf i £278 miliwn yn 2011-12. Nid yw'n glir i ba raddau y mae'r Fframwaith neu'r ffordd y mae'r Fframwaith wedi'i roi ar waith wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn gwariant ers 2010-11. Y rheswm am hyn yw bod o leiaf rhywfaint o'r gostyngiad yn debygol o adlewyrchu datblygiadau eraill, gan gynnwys y £37.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru tuag at foderneiddio gwasanaethau gofal cymhleth. Mae trefniadau lleol ar gyfer rhoi'r Fframwaith ar waith yn amrywio o fewn a rhwng Byrddau Iechyd, ac nid ydynt bob amser yn bodloni'r gofynion a amlinellir yn y Fframwaith mewn amryw o feysydd pwysig. Mae effeithiolrwydd cydweithio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio'n fawr, o 'cadarnhaol ac adeiladol' i 'anodd'. Mae i ba raddau y mae unigolion a'u teuluoedd yn rhan o'r broses GIP yn amrywio hefyd. Mae'r adroddiad hefyd yn bryderus bod GIG Cymru wedi cael trafferth mynd i'r afael â nifer fawr o ôl-hawliadau sy'n herio a ddylai rhywun fod wedi derbyn GIP yn y gorffennol. Mae'r hawliadau'n cael eu prosesu gan brosiect cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd unigol, yn dibynnu ar ddyddiad cyflwyno'r hawliad. Ychydig iawn o gynnydd mae'r prosiect cenedlaethol wedi'i wneud ac, er gwaethaf cyllid ychwanegol, mae yna risg sylweddol na fydd yr holl hawliadau'n cael eu clirio erbyn y dyddiad terfyn ym mis Mehefin 2014. Nid oes dyddiad terfyn ar gyfer yr hawliadau sy'n cael eu trafod gan Fyrddau Iechyd unigol, ond nid oes gan y Byrddau Iechyd broses gyffredin o fynd i'r afael â'r hawliadau hyn ac, erbyn mis Medi 2012, dim ond 13 y cant o'r 1,264 o ôl-hawliadau ac achosion o anghydfod a oedd wedi'u datrys. Mae methu â mynd i'r afael ag ôl-hawliadau'n brydlon yn annheg ar yr unigolion dan sylw. Mae llawer o'r ôl-hawliadau sy'n dal i gael eu trafod gan y prosiect cenedlaethol yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer ac, o ystyried yr amserlenni perthnasol, mae mwy na phedwar o bob pum achos yn cael eu cyflwyno gan aelodau o'r teulu ar ran perthynas sydd wedi marw. Mae'r adroddiad yn cyflwyno sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
Mae adroddiad heddiw hefyd yn cyflwyno rhestr wirio hunanasesu a gwella a ddatblygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n orfodol i bob Bwrdd Iechyd ei defnyddio.
Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:
'Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn hollbwysig er mwyn diwallu anghenion nifer cynyddol o bobl agored i niwed. Mae'n bosibl y bydd yna oblygiadau ariannol sylweddol i'r rhai ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol ond yr ystyrir nad ydynt yn gymwys i gael GIP, felly mae'n hollbwysig bod pobl yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyson wrth ystyried eu cymhwysedd i gael GIP. Er bod y Fframwaith diwygiedig wedi helpu yn hyn o beth, mae angen gwneud mwy ac mae angen gweithio'n gynt i glirio'r ôl-hawliadau a'r achosion o anghydfod yn erbyn penderfyniadau sydd wedi pentyrru.'
Nodiadau i Olygyddion: