Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gyda'i gilydd, mae cynnydd yn y galw, heriau'n ymwneud â'r gweithlu a phroblemau gyda llif cleifion drwy ysbytai acíwt wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn perfformiad yn erbyn y prif dargedau gwasanaeth, ond mae'r data mwyaf diweddar yn dangos gwelliannau calonogol y mae angen eu cynnal. Dyma gasgliadau adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Disgrifia'r adroddiad y cynnydd a wnaethpwyd ers adroddiad blaenorol gan yr Archwilydd Cyffredinol ar yr un pwnc yn 2009. Mae'n cydnabod yr ymrwymiad yn y GIG yng Nghymru i wella gwasanaethau gofal heb ei drefnu ond amlyga'r ffaith fod amseroedd aros mewn adrannau achosion brys ysbytai wedi cynyddu yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, a bod gormod o gleifion, yn arbennig pobl hyn, yn treulio mwy na 12 awr yn yr adrannau hyn. Mae rhai o'r prif heriau a welwyd yn 2009 i'w gweld o hyd - yr angen i ddatblygu dull mwy cyfannol a chydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, a'r angen i helpu cleifion i ddeall yn well yr amrywiaeth cymhleth o wasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn iddynt gael y driniaeth sydd fwyaf priodol i'w hanghenion.
Mae gwaith pwysig i ddeall y galw am wasanaethau gofal heb ei drefnu'n well wedi dangos y bu cynnydd nodedig yn nifer y cleifion 85 oed a throsodd a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys yn ystod 2012-13. Yn nodweddiadol mae gan y cleifion hyn anghenion iechyd cymhleth y mae angen eu hasesu'n ofalus ac sy'n aml yn golygu bod yn rhaid eu derbyn i'r ysbyty. Fodd bynnag, mae derbyn y cleifion hyn a chleifion eraill i ward yn brydlon yn anodd yn aml yn sgil problemau gyda phrinder gwelyau a pha mor gyflym y gall meddygon arbenigol ddod i'r adran damweiniau ac achosion brys i asesu cleifion.
Ar gyfnod pan fydd y galw ar ei uchaf, mae problemau gyda llif cleifion drwy'r ysbyty wedi arwain at bwysau sylweddol ar adrannau damweiniau ac achosion brys, sy'n gallu mynd yn orlawn, gyda chleifion yn wynebu oedi hir a cherbydau ambiwlans yn gorfod ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys i 'drosglwyddo' cleifion. Yn nodedig, mae'r perfformiad yn erbyn targedau trosglwyddo y gwasanaeth ambiwlans wedi gwaethygu dros amser er 2009.
Gall problemau'n ymwneud â'r gweithlu gyfrannu at y pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu. Yn debyg i weddill y DU, mae Cymru wedi cael problemau o ran recriwtio meddygon i weithio ym maes meddygaeth frys. Nid oes yr un adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn gallu cyrraedd safonau'r Coleg Meddygaeth Frys ar gyfer presenoldeb meddyg ymgynghorol ar y 'rheng flaen'. Gall problemau godi hefyd gyda recriwtio a chadw meddygon i weithio yn y gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Amlyga'r adroddiad gyfleoedd i fynd i'r afael â'r pwysau ar ofal heb ei drefnu drwy reoli'r galw'n well. Ymysg y meysydd penodol y nodwyd bod angen sylw arnynt mae: cynyddu mynediad i apwyntiadau brys gyda meddyg teulu ar yr un diwrnod yn ystod oriau gwaith craidd; gwella sgiliau staff ambiwlans i'w galluogi i drin rhagor o gleifion yn y fan a'r lle neu'u hatgyfeirio i wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau brys; a chyflymu'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cymunedol sy'n cynnig dewisiadau amgen i dderbyn pobl i'r ysbyty.
Er bod byrddau iechyd wedi dechrau symleiddio'r system gofal iechyd heb ei drefnu, mae'r cyhoedd yn parhau i wynebu ystod gymhleth a dryslyd o opsiynau. Nod yr ymgyrch Dewis Doeth gan Lywodraeth Cymru yw darbwyllo'r cyhoedd i feddwl yn ofalus cyn mynd i adran achosion brys neu ddeialu 999 ond hyd yma prin fu ei heffaith o ran helpu pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion gofal brys.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth ffôn 111 newydd yn 2015. Dylai'r gwasanaeth hwn helpu cleifion i gael y driniaeth gywir cyn gynted â phosibl a lleihau'r galw ar wasanaethau gofal heb ei drefnu. Fodd bynnag, cafwyd problemau wrth weithredu gwasanaeth 111 yn Lloegr, a bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn dysgu o brofiad Lloegr.
Ar hyn o bryd mae cyrff y GIG yn cynnal trafodaeth gyda'r cyhoedd ar faterion anodd yn ymwneud â'r ad-drefnu sydd ei angen er mwyn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy sy'n glinigol ddiogel. Ymysg y cynlluniau yr ymgynghorir arnynt mae newidiadau arfaethedig i rai gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Amlyga'r adroddiad rai o'r dadleuon o blaid newid ond noda hefyd fod angen i gynlluniau ad-drefnu ysbytai fod yn rhan o drawsnewidiad ehangach y system gofal heb ei drefnu gyfan er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy.
Caiff perfformiad y maes gofal heb ei drefnu ei fonitro'n fanwl iawn gan Lywodraeth Cymru a chyrff y GIG, a rhoddir ffocws cynyddol ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae hyn yn galonogol, ond mae angen gwneud rhagor i grynhoi'r wybodaeth am brofiadau cleifion ar draws yr holl lwybr gofal heb ei drefnu ac i fynd i'r afael â'r bylchau yn y setiau data allweddol ar ofal heb ei drefnu.
Mae'r data mwyaf diweddar sydd ar gael ar amseroedd aros mewn adrannau achosion brys a throsglwyddiadau o'r gwasanaeth ambiwlans yn galonogol gan eu bod yn dangos gwelliannau nodedig ers Gwanwyn 2013. Bydd yn bwysig bod y gwelliannau hyn yn parhau drwy weddill 2013 a thu hwnt.
Gwna'r adroddiad nifer o argymhellion gan gynnwys y canlynol:
Meddai'r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
'Er bod yr adroddiad hwn heddiw yn dangos bod y GIG yng Nghymru yn blaenoriaethu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, mae ffactorau fel cynnydd yn y galw a heriau'n ymwneud â'r gweithlu yn amlwg wedi rhoi gwasanaethau dan gryn bwysau, ac wedi cyfrannu at anawsterau parhaus o ran cyrraedd targedau perfformiad. Yn yr adroddiad hwn gwneir nifer o argymhellion clir ar gyfer yr holl asiantaethau sy'n darparu gofal heb ei drefnu yng Nghymru, a'r gobaith yw y bydd hyn yn helpu'r GIG i adeiladu ar y gwelliannau a awgrymir yn ôl y data mwyaf diweddar sydd ar gael.'
Nodiadau i Olygyddion