Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gwendidau systemig o ran rheoli ariannol a llywodraethu yn parhau, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilwyr yn dal i ganfod gwendidau cyffredin a sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sawl Cyngor Tref a Chymuned ledled Cymru. Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae cyfrifon lleol yn aml yn cael eu cyflwyno'n hwyr i'w harchwilio ac mae ansawdd llawer ohonynt yn wael.
O'r herwydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu addasu'r trefniadau archwilio ar gyfer cyfrifon cynghorau lleol yn 2015-16, ac o hynny ymlaen. Datblygiad o'r dull archwilio cyfredol fydd y trefniadau newydd gan roi mwy o bwyslais ar lywodraethu ac adrodd cyhoeddus. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog y sector i ganolbwyntio mwy ar wella eu trefniadau llywodraethu a'u rheolaeth ariannol. Mae adroddiad heddiw yn dangos bod hyd at 40 y cant o gynghorau tref a chymuned heb gyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd yn 2012; bod un o bob saith heb gyflwyno datganiad blynyddol i'w archwilio a bod un o bob deg o'r cyfrifon a gyflwynwyd angen eu cywiro.
Gwendidau systemig trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol yn parhau, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilwyr yn dal i ganfod gwendidau cyffredin a sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sawl Cyngor Tref a Chymuned ledled Cymru. Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae cyfrifon lleol yn aml yn cael eu cyflwyno'n hwyr i'w harchwilio ac mae ansawdd llawer ohonynt yn wael. O'r herwydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu addasu'r trefniadau archwilio ar gyfer cyfrifon cynghorau lleol yn 2015-16, ac o hynny ymlaen. Datblygiad o'r dull archwilio cyfredol fydd y trefniadau newydd gan roi mwy o bwyslais ar lywodraethu ac adrodd cyhoeddus. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog y sector i ganolbwyntio mwy ar wella eu trefniadau llywodraethu a'u rheolaeth ariannol. Mae adroddiad heddiw yn dangos bod hyd at 40 y cant o gynghorau tref a chymuned heb gyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd yn 2012; bod un o bob saith heb gyflwyno datganiad blynyddol i'w archwilio a bod un o bob deg o'r cyfrifon a gyflwynwyd angen eu cywiro. Cyhoeddodd yr archwilwyr farn archwilio amodol ar 130 o gynghorau (17 y cant). Mewn geiriau eraill, roedd bron un o bob pum cyngor lleol wedi methu bodloni'r safonau llywodraethu gofynnol. Dan drefniadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, bydd archwiliadau cynghorau lleol yn cynnwys adolygiad thematig o drefniadau llywodraethu. Bydd cynghorau tref a chymuned yn cael gwybod ymlaen llaw pa feysydd penodol fydd yn rhan o'r adolygiad thematig bob blwyddyn. Bydd y trefniant hwn yn galluogi'r cynghorau i nodi meysydd lle mae angen iddynt wella'u trefniadau a gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.
Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:
'Rwy'n poeni bod cynghorau tref a chymuned yn parhau i fethu cyhoeddi datganiad blynyddol wedi'i archwilio mewn da bryd. Yn fy marn i, mae'n annerbyniol nad yw cynghorau lleol sy'n cael eu cyllido gan arian cyhoeddus yn llwyddo i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a pharatoi datganiadau cyfrifon i'w harchwilio. Mae nifer y barnau archwilio amodol hefyd yn rhy uchel o lawer. Dylai'r trefniadau archwilio newydd helpu cynghorau lleol i ganolbwyntio'n well ar gyflawni eu cyfrifoldebau ariannol i'r safonau sy'n ddisgwyliedig gennyf fi a phobl Cymru."
Nodiadau i Olygyddion: