Gwersi rhyngwladol i gyrff cyhoeddus Cymru wrth ymateb i COVID-19 ac adfer o hynny

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Bydd yn cymryd amser inni adfer o bandemig byd-eang. Mae’r cyrff cyhoeddus sy’n ein cadw’n ddiogel, yn iach a heini at y dyfodol yn canfod eu hunain mewn byd newydd, gyda phroblemau ariannol i fynd i’r afael â nhw, newid o ran ymddygiad a disgwyliadau dinasyddion ac ymwelwyr, a gweithluoedd sydd angen addasu i ffordd newydd o weithio. Bydd rhaid i bob un ohonom ddelio â risgiau ychwanegol, ac efallai y bydd dychwelyd at yr hen drefn ‘arferol’ yn cymryd cryn amser, os o gwbl.

Archwilio o bell (profiadau hyfforddai)

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Pan ddechreuais weithio ar archwiliad interim o Gomisiwn y Senedd o bell ym mis Mawrth ar ôl dychwelyd o’r coleg, feddylies i erioed y byddwn i’n cwblhau’r archwiliad terfynol ym mis Mai o bell hefyd! Heb os, roedd yn ailgyflwyniad rhyfedd i waith archwilio ar ôl dau fis a hanner o astudio, ond gyda’m hail sgrin a chadair desg wrth fwrdd y gegin, roeddwn i’n barod amdani.

Mae’r cwbl yn y data…

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae data’n rhan o’n bywydau pob dydd

Bob tro yr ydym yn defnyddio cerdyn banc, yn mynd ar siwrne ar fws neu’n rhyngweithio â gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn gadael trywydd o ‘olion bysedd digidol’ ar ein holau ar y systemau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio.

Cydymffurfio â’n terfynau amser ar gyfer cyfrifon wrth weithio gartref

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Andrew Strong yn esbonio sut mae Archwilio Cymru wedi sicrhau mynediad at gyfriflyfrau’r GIG i’n galluogi i gwblhau gwaith cyfrifon y GIG.

Mae COVID-19 yn gorfodi pobl dros y byd i gyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Yn Archwilio Cymru rydym wedi goresgyn rhwystrau trwy sicrhau mynediad o bell at gyfriflyfrau ariannol, sydd wedi ein helpu i gydymffurfio â’n terfynau amser ar gyfer cyfrifon.

Archwilio cyfrifon terfynol o gartref

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Lucy Herman sy’n sôn am ei phrofiadau yn arwain yr archwiliad o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae archwiliad cyfrifon terfynol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bellach wedi’i gwblhau. Yn Archwilio Cymru, rydym wedi gorfod addasu ein ffordd o wneud ein gwaith archwilio yn ystod y pandemig, ac wrth i’r cyfrifon lifo i mewn, dyma rai o fanteision ac anfanteision archwilio o bell.

Dawnsio i guriad newydd: ymateb nesa’r gwasanaethau cyhoeddus i COVID-19

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Crynodeb o’r blog

 

Wrth inni ddechrau symud o’r cyfnod clo, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu ‘normal newydd’ ansicr. Beth yw’r gwersi y gallwn fynd gyda ni i’r normal newydd hwn o’r ymateb cychwynnol i’r feirws? Mae’r erthygl hon yn tynnu ar flog helaeth am y ‘morthwyl a’r ddawns’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020.

Rhan 2: Effaith y Cornafeirws ar bobl sy’n cysgu allan – a yw hyn yn gyfle i roi diwedd ar ddigartrefedd ar y strydoedd?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r coronafeirws wedi effeithio arnom ni i gyd; ond mae’r effaith ar bobl ddigartref wedi bod yn llawer mwy drastig.

Pan roddwyd ein trefi a’n dinasoedd dan glo, fe gaeodd mannau cyhoeddus, ac fe gyfyngwyd ar symudiadau yn yr awyr agored. Fe helpodd yr ymateb hwn i arafu lledaeniad y feirws ac achub bywydau trwy leihau’r cyfleoedd i’r feirws gyflymu a rhoi rhagor o bobl mewn perygl.

Rhan 1: Mwy na dim ond problem tai – cost gwneud cam â phobl sy’n cysgu allan yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Pan oeddwn yn gweithio ym maes digartrefedd byddwn yn aml yn clywed y cwestiwn ‘Pam fod pobl yn dod yn ddigartref?’

O’m profiad i, mae pobl yn gofyn y cwestiwn hwn gydag un neu ddau gymhelliad. Ar y naill law fe’i gofynnir â diddordeb go iawn i wybod (a deall) pam fod rhai pobl yn diweddu’n ddigartref a bod eraill ddim. Ar y llaw arall, fe’i codir fel cwestiwn â thinc sydd bron yn feirniadol, sef os ydych yn ddigartref yna eich bai chi ydyw ac mae angen i chi ddod at eich coed a challio.