O'r Strategaeth i Fodolaeth: Sut mae'r digidol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd

15 Rhagfyr 2023
  • Mae'r adnodd yma i unrhyw un  oedd yn y digwyddiad, neu sydd â diddordeb yn yr hyn a rannwyd.

    Os nad ydi’r byd digidol i chi, yna mae angen i chi ddod i’r digwyddiad yma.

    Os mai’r byd digidol yw eich cynefin, yna dewch draw i ategu eich sgiliau cael y maen i’r wal.

    Bydd y digwyddiad yma yn edrych yn onest ac ymarferol ar y dirwedd ddigidol yng Nghymru ac yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector er mwyn cyflawni’r gwerth am arian gorau.

    Sut mae trosi amcanion strategaethau digidol mewn i weithredu ymarferol sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd?

    Mae digidol yn rhan mor fawr o’n bywydau a’r gwasanaethau ‘rydym yn eu defnyddio bellach. Mae hyn yn golygu ei fod yn rhan annatod sy’n cael ei gymryd yn ganiataol o ddarparu  gwasanaethau a rhedeg sefydliadau.

    Mae darparu gwasanaethau effeithiol yn y cyfnod yma yn golygu gweithio yn ddigidol i ryw raddau. Ond mae’r byd digidol yn enfawr a gall fod yn ddryslyd iawn ceisio dod o hyd i’r ffordd ymlaen. Bydd y digwyddiad yma yn canolbwyntio ar y sylfeini fydd yn galluogi llwyddo mewn ffordd gyraeddadwy a chynaliadwy. Mae hynny yn cynnwys yr arweinyddiaeth a’r diwylliant sydd angen ei fagu, sut i ddylunio gwasanaethau, y sgiliau digidol sydd eu hangen o fewn sefydliad yn ogystal â sut i sicrhau fod pawb yn cael eu cynnwys a bod gwasanaethau yn hygyrch.

    Adnoddau o'r digwyddiad

    Title Size Link
    Sleidiau o Sesiwn Dorfol Cwmpas 1.66 MB Link
    Sleidiau o Weithdy Cwmpas 4.87 MB Link
    Sleidiau Cymunedau Digidol Cymru 964.62 KB Link
    Sleidiau CDPS 1.35 MB Link
    Sleidiau ProMo Cymru 3.39 MB Link