Safon bresennol rheoli arian yn “siomedig” mewn gormod o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru Darllen mwy about Safon bresennol rheoli arian yn “siomedig” mewn gormod o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru Mae safon bresennol llywodraethu a rheoli arian yn parhau i fod yn siomedig mewn gormod o Gynghorau Tref a Chymuned, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae nifer y problemau ariannol a nodwyd gan archwilwyr yn ystod y flwyddyn ariannol hon – sydd wedi arwain at ‘farn archwilio amodol’ – wedi dyblu. Ac mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod cyhoeddi adroddiadau ‘er budd y cyhoedd’, neu wneud argymhellion ffurfiol, i 8 o gynghorau yn 2018.
Teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc Darllen mwy about Teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc Mae cynllun ‘FyNgherdynTeithio’, sydd wedi rhoi gostyngiad o un rhan o dair i bobl ifanc 16-18 oed oddi ar deithiau bws yng Nghymru, wedi costio swm sylweddol llai i Lywodraeth Cymru ers mis Ebrill 2017 o gymharu â 19 mis cychwynnol ei weithrediad. Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae hyn yn codi cwestiynau amlwg ynghylch gwerth am arian y £14.74 miliwn a wariwyd yn ystod y cyfnod peilot cychwynnol, hyd yn oed o gymryd unrhyw gostau gweithredu ymlaen llaw i ystyriaeth.
Trem yn ôl dros 2018 Darllen mwy about Trem yn ôl dros 2018 Yn bennaf oll, ein hamcan yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod pa un a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i adnabod a chyhoeddi arferion da. Rydym ni wedi dewis 12 uchafbwynt sy’n dangos sut yr ydym ni wedi cyflawni’r amcanion hyn.
Cymru’n “gweithio’n dda” i weithredu datganoli cyllidol Darllen mwy about Cymru’n “gweithio’n dda” i weithredu datganoli cyllidol Mae Awdurdod Cyllid Cymru a Thrysorlys Cymru yn gweithio’n dda i weithredu cynlluniau i drosglwyddo rhai trethi a phwerau benthyg o Lywodraeth y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyna ddywed adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Methiannau mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn mwy o gynghorau cymuned Darllen mwy about Methiannau mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn mwy o gynghorau cymuned Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd yn amlygu methiannau mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd mewn rheolaeth ariannol mewn tri chyngor cymuned – Cadfarch, Glantwymyn a Llanbryn-mair. Roedd materion tebyg wedi'u hamlygu ym mhob un o'r cynghorau. Yn nodweddiadol, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
Mae angen i lywodraeth leol wneud rhagor i ddatblygu diwylliant data cadarn Darllen mwy about Mae angen i lywodraeth leol wneud rhagor i ddatblygu diwylliant data cadarn Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eistedd ar 'wythïen gyfoethog' o ddata personol, ariannol a chymunedol a allai eu helpu i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, er bod cynghorau yn graddol ddatblygu diwylliant data cadarn, mae angen iddynt wneud rhagor i ddatgloi potensial y data hynny yn llawn.
Mae angen dull mwy cydlynol o reoli cymorth ariannol i fusnesau ar Lywodraeth Cymru Darllen mwy about Mae angen dull mwy cydlynol o reoli cymorth ariannol i fusnesau ar Lywodraeth Cymru Ni wnaeth Llywodraeth Cymru lwyr wireddu ei gweledigaeth am adnewyddu economaidd mewn rhaglen gydlynol o gymorth ariannol i fusnesau, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar reoli prosiectau unigol. Mae angen iddi hefyd ddangos yn fwy eglur yr hyn y mae'r cymorth hwn yn ei gyflawni. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ailwampio ei dull o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, drwy weledigaeth strategol newydd.
Brexit a’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru Darllen mwy about Brexit a’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru Roedd perygl sylweddol i Gymru golli cyllid mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’ o ran Brexit tan i Lywodraeth y DU ymestyn telerau ei sicrwydd cyllid ôl-Brexit yn ddiweddar iawn. Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli’r peryglon a’r cyfleoedd sy’n deillio o Brexit yng nghyswllt y Rhaglen Datblygu Gwledig – sy’n cynorthwyo ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau gwledig.
Ailgylchu ar gynnydd yng Nghymru ac mae’r dulliau yn fwy cyson Darllen mwy about Ailgylchu ar gynnydd yng Nghymru ac mae’r dulliau yn fwy cyson Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru yn cydweithio mwy, sy’n helpu i wneud dulliau ailgylchu yng Nghymru yn fwy cyson ac mae’n annog mwy o bobl i gymryd rhan. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu ei bod i raddau helaeth wedi goresgyn etifeddiaeth o densiynau a drwgdybiaeth ynghylch yr ymagwedd a argymhellir ganddi tuag at ailgylchu yn y cartref.
Mae angen i gynghorau feddwl a gweithredu’n wahanol i gynnal gwasanaethau yn ardaloedd gwledig Cymru Darllen mwy about Mae angen i gynghorau feddwl a gweithredu’n wahanol i gynnal gwasanaethau yn ardaloedd gwledig Cymru Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n galw ar gynghorau i feddwl a gweithredu’n wahanol i fynd i’r afael â’r her. Mae’r adroddiad yn archwilio’r modd y mae ardaloedd gwledig Cymru yn newid ac yn ystyried yr her ddemograffig sy’n wynebu cynghorau sy’n darparu gwasanaethau i gymunedau gwasgaredig. Mae conglfeini ein pentrefi’n diflannu, fel y banciau a’r swyddfeydd post, a’r seilwaith yn wael ac, o ganlyniad, mae’r cynghorau’n wynebu cryn her ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o helpu’r cymunedau hyn.