Ein gweminar ar seibergadernid cyrff cyhoeddus yn ystod y cyfnod clo

Ein gweminar ar seibergadernid cyrff cyhoeddus yn ystod y cyfnod clo

Ymunwch â ni yn ein gweminar rhad ac am ddim ar 23 Medi.

Dewch i'n gweminar i glywed sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn addasu eu trefniadau seibergadernid yn ystod y cyfnod clo.

Seibergadernid yw un o'r risgiau mwyaf i ddiogelwch gwladol y DU. Ac mae'r risg hon wedi cynyddu yn ystod y pandemig COVID-19, gan fod hacwyr wedi manteisio ar gyfleoedd newydd ar gyfer troseddau seiber.

Mae gwaith newydd gan Archwilio Cymru yn edrych ar 'seibergadernid' cyrff cyhoeddus, dull cyfannol o ymdrin â pheryglon y byd digidol, gan gynnwys canfod ac atal digwyddiadau seiber ac adfer oddi wrthynt.

Gwnaethom arolygu bron i 70 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau lleol, cyrff y GIG a pharciau cenedlaethol, i bennu eu risgiau a'u hymatebion i fygythiadau seiber.

Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad tuag at ddiwedd 2020 ond, cyn hynny, byddwn yn cynnal gweminar ar 23 Medi i gael cipolwg ymlaen llaw ar ein canfyddiadau interim.  Cliciwch yma am fwy o fanylion, gan gynnwys cyfarwyddiadau ymuno.

Ymunwch â ni yn y gweminar i glywed am waith seiber cyrff cyhoeddus yn ystod COVID-19, ynghyd â llawer mwy, gan gynnwys sut mae cyrff yn sicrhau bod eu Byrddau'n ymwneud â seibergadernid.