Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi adroddiad asesu corfforaethol ar awdurdod lleol Cyngor Dinas Casnewydd

09 Tachwedd 2020
  • 'Adeg dyngedfennol' i Gyngor Casnewydd ar ei daith tuag at welliant

    Mae'n adeg dyngedfennol i Gyngor Dinas Casnewydd wrth iddo ddechrau mynd i'r afael â gwendidau hirsefydledig yn y ffordd y mae'n cynllunio ar gyfer gwelliant. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ôl ei adroddiad Asesu Corfforaethol, o sicrhau perchenogaeth ehangach a mwy o gapasiti, mae gan y Cyngor y potensial i gyflawni newidiadau ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen.

    Datganiad i'r wasg

    Mae'n adeg dyngedfennol i Gyngor Dinas Casnewydd wrth iddo ddechrau mynd i'r afael â gwendidau hirsefydledig yn y ffordd y mae'n cynllunio ar gyfer gwelliant.

    Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ôl ei adroddiad Asesu Corfforaethol, o sicrhau perchenogaeth ehangach a mwy o gapasiti, mae gan y Cyngor y potensial i gyflawni newidiadau ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen.
    Mae'r adroddiad hwn heddiw yn nodi bod gan y Cyngor weledigaeth glir ac mae'r Prif Weithredwr yn dechrau creu'r diwylliant, yr amodau a'r cyfeiriad strategol i gyflawni gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Casnewydd. Fodd bynnag, mae hefyd yn dod i'r casgliad y bu'r Cyngor yn araf i fynd i'r afael â'r gwendidau mewn trefniadau llywodraethu sy'n ategu ei benderfyniadau i gefnogi gwelliant ond ei fod bellach yn rhoi trefniadau ar waith i gryfhau trefniadau craffu a'i raglen newid.

    Mae'r adroddiad hefyd yn dweud, er y bu gwelliannau mewn rhai meysydd, bod y Cyngor yn cydnabod nad yw wedi rheoli ei adnoddau'n ddigon da i'w helpu i gyflawni ei welliannau arfaethedig. Mae gwaith y Cyngor gyda phartneriaid hefyd yn gwella ond ni all eto ddangos effaith ei waith ar y cyd.

    Ymhlith y casgliadau eraill nodir bod y Cyngor yn cydnabod nad yw wedi rheoli perfformiad na risg yn ddigon da, ac mae'n rhoi rhai trefniadau gwell ar waith i ysgogi gwelliant. Ac, er bod gwasanaeth addysg y Cyngor yn cyrraedd y lefelau perfformiad disgwyliedig neu'n rhagori arnynt,  nid yw'r Cyngor yn cyflawni popeth yn ôl y bwriad mewn rhai gwasanaethau allweddol eraill, fel tai, hamdden a diwylliant a budd-daliadau.

    Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion a chynigion ar gyfer gwella, gan gynnwys:

    • Dylai'r Cyngor fynd i'r afael â gwendidau yn ei drefniadau rheoli pobl gyda mwy o frys er mwyn ymdrin â gwendidau hirdymor fel y gall sicrhau bod ganddo'r capasiti a'r gallu sydd eu hangen i newid a gwella;
    • Rhoi trefniadau ar waith sy'n galluogi'r Cyngor i lunio a chraffu ar ei amcanion gwella a'u cymeradwyo a'u cyhoeddi yn amserol er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau statudol;
    • Dylai'r Cyngor ddatblygu a gweithredu strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu briodol sy'n cyfleu'r fframwaith sefydliadol a'r genhadaeth newydd, ac sydd hefyd yn cefnogi newidiadau diwylliannol o fewn y sefydliad.
      Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
      'Ar ôl cyfnod ansefydlog o fewn y tîm arwain, mae'n galonogol gweld strwythur rheoli newydd ar waith yng Nghyngor Dinas Casnewydd sy'n cydnabod i ba raddau y mae'n rhaid iddo weithredu er mwyn gwella. Os gall y Cyngor atgyfnerthu ei gapasiti ymhellach a sicrhau mwy o berchenogaeth o ran ei raglen newid, mae ganddo'r potensial i gyflawni ei weledigaeth a'i gynlluniau uchelgeisiol. Yn sgil y camau a gymerwyd yn ddiweddar, rwy'n fodlon bod y Cyngor bellach yn debygol o gydymffurfio â'r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus.'

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Diben yr Adroddiad Asesu Corfforaethol hwn yw darparu datganiad sefyllfa am gapasiti a gallu Cyngor Dinas Casnewydd i sicrhau gwelliant parhaus. Mae'n adrodd ar berfformiad a chanlyniadau blaenorol y Cyngor yn ogystal â'r trefniadau allweddol sydd eu hangen i ategu gwelliannau mewn gwasanaethau a swyddogaethau.
    • Ceisiodd yr asesiad corfforaethol ateb y cwestiwn canlynol: 'A all y Cyngor gyflawni ei flaenoriaethau a gwella canlyniadau i ddinasyddion?'
    • O 2013-14, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgymryd â rhaglen dreigl o asesiadau corfforaethol mewn awdurdodau gwella yng Nghymru, yn seiliedig ar gylch pedair blynedd.
    • Golyga hyn, yn ogystal â rhaglen flynyddol o astudiaethau gwella ac archwiliadau o ddull awdurdodau o gynllunio a chofnodi gwelliant, y bydd pob awdurdod yn cael asesiad corfforaethol manwl unwaith yn ystod cyfnod o bedair blynedd.
    • Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol benodi archwilwyr allanol i archwilio cyfrifon cynghorau lleol. 
    • Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo mewn llywodraeth leol yw archwilwyr allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £14 biliwn a ddyfernir i Gymru'n flynyddol gan Senedd San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r arian hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (bron £4 biliwn).
    • Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.