clawr yr adroddiad
‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'u partneriaid allweddol yn rhoi gofynion Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 ar waith.

Yn dilyn trychineb Tân Tŵr Grenfell, comisiynwyd adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân gan Lywodraeth y DU. Datgelodd ymchwiliad Hackitt faterion difrifol a hirsefydlog gyda’r system diogelwch adeiladau bresennol. 

Yr hyn a ganfuom

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gymryd y camau gweithredu i sicrhau ein bod yn osgoi trychineb arall fel Grenfell. Canfu ein hadroddiad, er bod y newidiadau i Reoli Adeiladu a Diogelwch Adeiladau yn rhai sydd i’w croesawu, nad yw’r unigolion sy’n gyfrifol am roi’r newidiadau hyn ar waith mewn sefyllfa dda i’w cyflawni ac nad ydynt yn gallu cyflawni eu rolau’n effeithiol i wneud yn siŵr bod adeiladau yng Nghymru’n ddiogel. Canfuom hefyd fod ystod eang o broblemau’n wynebu’r proffesiwn rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau, gan gynnwys heriau staffio sylweddol.

Yn ein hadroddiad, rydym yn cyflwyno nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

Related News

Codi pryderon nad yw’r gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yn cael ei blaenoriaethu ac nad oes adnoddau’n cael eu darparu ar ei chyfer
Diogelwch Adeiladau – A ydym wedi dysgu o Grenfell?

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA