Arfer Da

visual artwork describing conversations during the event. The image includes two people and the words relationships, challenges, working together and ask for help.
Gweithio mewn partneriaeth i wella llesiant yng Ngogledd Cymru
  • Testun teitl y dudalen gyda Chennin Pedr stylised yn lliwiau corfforaethol Archwilio Cymru, sef oren, gwyn a llwy
    Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

    Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

    Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac sy'n annog pobl i ddod yn rhan o’u cymunedau lleol.

    Mae’r Gymru fodern yn wlad â chyfoeth o gymunedau amrywiol, aml-ieithol a chymdeithas sy’n hybu a gwarchod diwylliannau Cymru, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Cymdeithas sy’n annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau trwy gelf, chwaraeon, addysg a hamdden.

    Ymunwch â ni i ddathlu’r ffurfiau gwahanol ar Gymreictod yn y Gymru fodern, gan archwilio sut mae cymunedau yn cyfrannu at ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

    Wedi'i ysbrydoli gan daith Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros y ddegawd ddiwethaf, bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae mynd y tu hwnt i'r gofynion yn creu agwedd gadarnhaol a chynhwysol sy’n lluosogi llwyddiant.

  • visual image - two people, weighing scales and tick boxes on a document
    Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb mwy nag ymarfer blwch ticio

    Wedi'i wneud yn dda, mae Asesiadau EG yn fwy na modd i ddangos cydymffurfiaeth. Maent yn ategu twf meddylfryd a diwylliant sy'n rhoi materion cydraddoldeb wrth wraidd datblygiad polisi a phenderfyniadau. 

    Fodd bynnag, mae'r hyn yr ydym wedi'i weld a'i glywed yn dweud wrthym fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn tueddu i ddefnyddio eu Hasesiadau EG yn amddiffynnol. Yn rhy aml, maent yn ymddangos fel ymarfer blwch tic i ddangos bod y corff wedi meddwl am faterion cydraddoldeb rhag ofn herio. Er bod her gyfreithiol wrth gwrs yn risg bwysig i'w rheoli, mae'r dull hwn yn golygu nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau EG i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant. 

    Nod y digwyddiad dysgu a rennir hwn yw cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wella defnydd a chymhwyso Asesiadau EG y tu hwnt i ymarfer cydymffurfio drwy ddod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth. 

  • Swigod siarad yn cynrychioli sgwrs yn lliwiau corfforaethol Archwilio Cymru, sef Llwyd ac Oren. Mae gliniadur yn un swigen yn cynrychioli sgwrs ddigidol a thrafodaeth arlein.
    Safbwyntiau Covid: Llesiant Staff

    Sgwrs am lesiant staff yn ystod y pandemig gyda siaradwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

    Y siaradwyr yw: Lisa Gostling, (Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu'r Sefydliad), Suzanne Tarrant (Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol), Christine Davies (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu'r Sefydliad). Cyflwynwyd a hwyluswyd y sgwrs gan Phil Jones o Archwilio Cymru.

Yn dangos @diwedd yr @holl Adnoddau
  • Services
    Gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg
    Bydd pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg yn cael trafferth defnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen arnynt. Gall hyn fod…
  • People
    Gweithio ystwyth
    Mae buddion gweithio ystwyth yn fwy perthnasol nag erioed, â'r hinsawdd economaidd bresennol fel ag y mae. 
  • aaa
    Sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd
    Cynhaliwyd y seminar ar adeg dyngedfennol i'r sector cyhoeddus yn sgil y Cynllun Integredig Sengl a thoriadau yn y sector cyhoeddus.…

Blogiau Arfer Da

Fe wnawn hyn drwy gynnal digwyddiadau dysgu ar y cyd, gweminarau a phodlediadau.

Maent yn galluogi mynychwyr i rannu a dysgu o'i gilydd:

  • ar y dydd
  • arlein dros gyfryngau cymdeithasol
  • trwy parhau â thrafodaethau ar ôl y digwyddiad, a
  • trwy gael mynediad at ein allbynnau o'r digwyddiad a chanllawiau.

Mae ein rhaglen o ddysgu ar y cyd yn canolbwyntio ar faterion sy'n gyffredin ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r pynciau yma yn cyd-fynd â nifer o'n hastudiaethau ac yn cyfrannu at amcanion strategol ein sefydliad. 

Maent hefyd yn gweithio ar sail dulliau gweithio a nodau'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenestr newydd]Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [agorir mewn ffenestr newydd]Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 [agorir mewn ffenestr newydd].

Rydym yn cydnabod bod sefydliadau mewn camau gwahanol o gynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn ffocws pwysig i'n digwyddiadau. 

Credwn mewn addasu nid mabwysiadu - does dim rhaid ail-ddyfeisio'r olwyn, ond ynyr un modd, nid yw un maint yn addas i bawb. 

Gweld hefyd: Digwyddiadau'r dyfodol