Staff yn barod i gyfarfod â'r cyhoedd yn Sioe Frenhinol Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae ein cynllun blynyddol yn amlygu un o'n prif amcanion, sef "ymgysylltu'n fwy effeithiol â’r cyhoedd, mae eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill i fesur effaith ein gwaith, asesu ein perfformiad a mesur ein llwyddiant."
Sioe Frenhinol Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop ac mae'n denu tua 250,000 o bobl bob blwyddyn.

Trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu’n amrywiol ledled Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhyddhau ei adroddiad sy’n edrych ar drefniadau corfforaethol cynghorau yng Nghymru ar gyfer diogelu plant. Er bod gan yr holl gynghorau systemau a phrosesau i oruchwylio’r gwaith o ddiogelu plant, mae’r Archwilydd wedi canfod bod cyfleoedd yn bodoli i gryfhau dull y cynghorau o reoli’r cyfrifoldebau hyn.

Ni all llywodraeth Cymru ddangos gwerth am arian o werthu tir

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cwblhau astudiaeth gwerth am arian fanwl o werthu asedau tir ac eiddo cyhoeddus gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio [Agorir mewn ffenest newydd] (y Gronfa) a hefyd y broses o lywodraethu, gweithredu a goruchwylio'r Gronfa. 
Daw i'r casgliad na all Llywodraeth Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] na'r Gronfa ddangos gwerth am arian o werthu'r ased, a wnaeth dynnu sylw'r Gronfa oddi ar ei di

Cyngor Abertawe yn gwella mewn amrywiaeth o wasanaethau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Gall Cyngor Abertawe ddangos gwelliant mewn amrywiaeth o wasanaethau allweddol ac mae wedi datblygu fframwaith clir ar gyfer rheoli heriau yn y dyfodol. Dyma gasgliad adroddiad asesu corfforaethol a gwella blynyddol a gyhoeddir gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.
Daw'r adroddiad i'r casgliad bod gan y Cyngor weledigaeth glir o'r hyn y mae am ei gyflawni, gan ddatblygu blaenoriaethau allweddol i gyflawni'r weledigaeth honno a sicrhau ymrwymiad yr uwch reolwyr.

Gosodir y sylfeini am wasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Daw adroddiadau a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Estyn i'r casgliad, ar ôl dechrau ansicr, fod y sylfeini ar gyfer pedwar gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol bellach yn cael eu sefydlu.
Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwella ysgolion drwy bedwar consortiwm addysg rhanbarthol.

Cyngor Casnewydd yn dangos gwelliant mewn rhai meysydd allweddol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud gwelliannau mewn rhai agweddau ar ei drefniadau ond nid yw wedi cyflawni newidiadau ar y raddfa na'r cyflymdra gofynnol ac erys gwendidau hirsefydledig yn ei drefniadau llywodraethu. Dyma gasgliad adroddiad dilynol asesu corfforaethol a gyhoeddir gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

Cyflymu Cymru Yn Gwneud Cynnydd Rhesymol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod contract Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lofnodi gyda BT yn 2012 a’i gefnogi gan hyd at £205 miliwn o gyllid cyhoeddus, yn ‘gwneud cynnydd rhesymol’ wrth gyflwyno mynediad i wasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf. Amcan y contract yw darparu mynediad i tua 700,000 o adeiladau ledled Cymru lle nad oes unrhyw gynllun i gyflwyno gwasanaeth masnachol. Mae gwaith i annog pobl i fanteisio ar y buddsoddiad hwn ac ar fathau eraill o fuddsoddiad yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf bellach yn mynd rhagddo.

Lansio parthau Cymraeg newydd ar gyfer ein gwefan

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae ein parthau ni bellach fel a ganlyn:
  • archwilio.cymru ar gyfer y safle Cymraeg, ac
  • audit.wales ar gyfer y safle Saesneg.
Bydd symud i’r parthau Cymraeg newydd yn gwella ein presenoldeb cenedlaethol ar-lein, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogi’r ymgyrch ehangach i Gymreigio’r we.
Mae’r parthau newydd wedi bod ar gael ers 1 Mawrth 2015 ac mae dros 10,000 o barthau eisoes wedi eu cofrestru, o fusnesau bach i gyrff cyhoeddus mawr.
Bydd cyfeiriad