Eitem newyddion ar yr Adroddiad Cydraddoldeb

09 Tachwedd 2020
  • Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb  

    Yr ydym yn falch o weld y cynnydd a wnaed gennym yn 2016-17 tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Ymysg yr uchafbwyntiau roedd: adolygu comisiynu gwasanaethau anabledd dysgu gan awdurdodau lleol; ennill achrediad hygyrchedd ar gyfer ein gwefan; cynnal seminarau dysgu a rennir ar ddarpariaeth gwasanaethau dehongli a chyfieithu; a lansio rhwydwaith menywod staff.
     
    Mae ein hadroddiad cydraddoldeb yn edrych ar ein datblygiad parhaus yn ein rhaglen gyffredinol o waith i helpu i sicrhau bod yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn bodloni eu dyletswyddau cydraddoldeb yn gyflawn.
     
    Yn yr adroddiad rydym yn darparu manylion ar yr asesiadau effaith polisïau ac arferion a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, a dod i'r casgliad bod angen i ni weithio ymhellach i gau ein bylchau cyflog yn gyffredinol yn, yn arbennig o ran rhywedd ac ethnigrwydd. 
     
    Rydym yn bwriadu adolygu ein hamcanion cydraddoldeb a pharatoi a chyhoeddi cynllun Cydraddoldeb Strategol Diwygiedig erbyn 31 Mawrth 2018.
     
    Darllenwch ein Hadroddiad Cydraddoldeb