Mae angen proffil uwch ar gyfer rheoli meddyginiaethau mewn cyrff iechyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae cyrff iechyd yng Nghymru yn cydweithio’n dda i wella’r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi a’u rheoli, ond mae angen sicrhau proffil uwch. Dyna gasgliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw. 
 
Canfu’r adroddiad hefyd, er bod GIG Cymru’n cymryd camau i wella rhagnodi mewn gofal sylfaenol, bod lle i wella ansawdd a chostau ymhellach.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cymryd camau sylweddol tuag at wella ei threfniadau llywodraethu a rheoli

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Er y gwelliannau yn ddiweddar i’r trefniadau llywodraethu a chamau a gymerwyd i ostwng costau, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn wynebu heriau a chyfleoedd wrth iddi geisio creu sylfaen gynaliadwy hirdymor, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llywodraeth Cymru’n ‘paratoi’n dda i ymgymryd â’i chyfrifoldebau datganoli cyllidol’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi’n dda i ymgymryd â chyfrifoldebau o ran datganoli gyllidol, y tro cyntaf ers dros 800 mlynedd i Gymru fod yn gyfrifol am godi elfen o refeniw treth ei hun. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Nid yw awdurdodau lleol yn ystyried pob dewis i gynhyrchu incwm

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn pwyso a mesur sut y mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu incwm ac yn manteisio ar y gallu i godi tâl am wasanaethau i wella eu sefyllfa ariannol.

Mae’n canfod, er bod awdurdodau lleol yn codi mwy o arian wrth godi tâl, nid ydynt yn ystyried pob dewis i gynhyrchu incwm, a hynny o ganlyniad i wendidau yn eu polisïau a sut y maent yn defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ystyried cynhyrchu incwm, gan gynnwys:

'Mae angen i ni gynyddu'r sgiliau a'r gallu ym maes cyllid sector cyhoeddus cymru'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cynllun arloesol newydd wedi'i lansio yng Nghymru i gynyddu sgiliau a gallu ac adnoddau swyddogaeth gyllid y sector cyhoeddus – er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae cyfrifoldebau cymhleth yn tanseilio gwaith cyrff cyhoeddus ar ddiogelwch cymunedol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei adroddiad cenedlaethol diweddaraf, Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, sy'n edrych yn fanwl ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i wella diogelwch cymunedol.

Mae i'r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, bedwar prif gasgliad;

Wyt ti’n barod i danio #GyrfaSy'nCyfrif?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Wyt ti'n awyddus i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru? Wyt ti'n adnabod rhywun sy'n awyddus i ddechrau gyrfa ystyrlon, gyda hyfforddiant gwych, buddiannau hael a rhaglen waith amrywiol?

Yna gallai Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion 2016-17 fod yn addas i ti.

Mae ein rhaglen yn para am bum mlynedd ac yn rhoi sgiliau archwilio yn y swydd i raddedigion yn ogystal ag absenoldeb astudio wrth i ti weithio tuag at gymhwyster cyfrifyddiaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Canmol Cyngor Torfaen am ei weledigaeth glir, arweinyddiaeth a chynlluniau ar gyfer gwella

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen weledigaeth strategol glir, wedi'i hysgogi gan arweinyddiaeth agored a chynhwysol, ac mae wrthi'n datblygu ei drefniadau corfforaethol i gyflawni gwell canlyniadau. Dyna gasgliad adroddiad Asesiad Corfforaethol yr Archwilydd Cyffredinol ar yr awdurdod, a gyhoeddir heddiw.