Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Mesur ar y Cyrion Mewn byd o gyrff cyhoeddus-gorfforaethol llawn dangosyddion perfformiad, ydym ni yn colli golwg ar werth cysylltiadau a chydymdeimlad dynol?
Prentisiaeth Gwyddor Data Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Y Cyfle: Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu?
Darpariaeth Taliadau Uniongyrchol Yn Ebrill 2022 bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad ar ddarpariaeth Taliadau uniongyrchol gan gynghorau. Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynghorau, ac yn taflu goleuni ar y ffordd all darpariaeth Taliadau Uniongyrchol chwarae rhan allweddol wrth weithredu yn unol â egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Prentis Cyllid AAT Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Y Cyfle: Rydym yn cynnig cyfleoedd i ennill a dysgu drwy Raglen Uwch Brentisiaeth Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Archwilio Cymru.