Trosglwyddo gwybodaeth i greu dilyniant mewn cyfnod o newid

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Rhannodd y digwyddiad bord gron rhad ac am ddim yma ymchwil Pulse of the Profession ® [Agorir mewn ffenest newydd] er mwyn cefnogi cadw gwybodaeth.
Mae trosglwyddo gwybodaeth yn swnio’n hawdd, ond mae’n dwyllodrus o heriol. Yn ôl ymchwil a wnaed eleni gan y Sefydliad Rheolaeth Prosiect, mae gan 75% o sefydliadau sy’n perfformio’n dda brosesau trosglwyddo gwybodaeth ffurfiol, a dim ond gan 35% o sefydliadau nad ydynt yn perfformio’n dda y mae'r prosesau hyn.

Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae llawer o’n parciau’n wynebu dyfodol ansicr, ac mae’r gwaith o’u rheoli a’u cynnal a’u cadw dan fygythiad. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr heriau presennol ac yn dangos yr arloesi sydd eisoes yn cael effaith. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn gadael gyda syniadau am sut mae defnyddio’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer arloesi a sut mae sicrhau bod parciau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ymddiriedaeth staff – elfen allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddiannus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd ymddiriedaeth mewn perthnasau personol. Mae hyn yr un mor addas ar gyfer perthnasau proffesiynol. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn profi newid mawr. Ni ellir amau gwerth y cysylltiad rhwng ymddiriedaeth a’i effaith ar staff gwasanaethau cyhoeddus. Neu’r hen ddywediad, ‘mae diffyg ymddiriedaeth yn costio arian!’