Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae llawer o’n parciau’n wynebu dyfodol ansicr, ac mae’r gwaith o’u rheoli a’u cynnal a’u cadw dan fygythiad. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr heriau presennol ac yn dangos yr arloesi sydd eisoes yn cael effaith. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn gadael gyda syniadau am sut mae defnyddio’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer arloesi a sut mae sicrhau bod parciau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ymddiriedaeth staff – elfen allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddiannus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd ymddiriedaeth mewn perthnasau personol. Mae hyn yr un mor addas ar gyfer perthnasau proffesiynol. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn profi newid mawr. Ni ellir amau gwerth y cysylltiad rhwng ymddiriedaeth a’i effaith ar staff gwasanaethau cyhoeddus. Neu’r hen ddywediad, ‘mae diffyg ymddiriedaeth yn costio arian!’

Atall Twyll Caffael Ynghyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Twyll caffael yw'r twyll uchaf ond un a ganfyddir yn sector cyhoeddus y DU, yn ail i dwyll treth yn unig. Mae amcangyfrifon diweddar yn nodi bod twyll caffael yn costio oddeutu £2.3 biliwn y flwyddyn i’r sector cyhoeddus.

Ni ellir parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y fformat presennol – mae hynny'n ffaith. O ganlyniad, bydd llawer o wasanaethau yn cael eu darparu mewn nifer o wahanol fodelau cydweithredol. Mae posibilrwydd y ceir cynnydd mewn gweithgarwch twyllodrus o ran caffael a chomisiynu'r gwasanaethau hyn.