
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae ein hadroddiad yn ystyried a yw gwasanaethau brys yng Nghymru yn cydweithio'n agosach i wneud gwell defnydd o adnoddau.
Mae ein hadroddiad yn awgrymu bod cydweithio 'golau glas' y gwasanaeth brys yn tyfu'n araf ond mae angen newid sylweddol mewn gweithgarwch er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cydweithio'n agos i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd ers blynyddoedd lawer, ac fe wnaethant gamu i fyny yn ystod y pandemig i helpu pobl Cymru. Fodd bynnag, mae Gweinidogion wedi bod yn glir eu bod am weld cydweithio rhwng y gwasanaethau brys yn mynd ymhellach ac yn gyflymach.
Cyd-grŵp y Gwasanaethau Brys
Mae'r Grŵp yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o wasanaethau 'golau glas' ac mae'n arwain yr agenda gydweithredu.
Sefydlasant Fwrdd Cydweithredu Strategol i nodi a darparu cyfleoedd cydweithio yn y dyfodol, gan roi arwydd clir bod angen newid sylweddol.
Mae cynlluniau ar gyfer cydweithredu yn datblygu ond mae rhai o'r rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas ac nid ydynt yn cael eu cefnogi gan drefniadau rheoli prosiect cyson.
Beth all Cymru ei ddysgu o fannau eraill ym Mhrydain Fawr?
O enghreifftiau a nodwyd yn ein hadroddiad o Ddyffryn Tafwys, Dwyrain Lloegr a'r Alban, mae'n ymddangos bod cydweithredu'n canolbwyntio'n bennaf, wedi'i flaenoriaethu'n lleol nid yn genedlaethol ac yn aml mae'n ymateb tactegol i fynd i'r afael â phroblem neu amgylchiadau.
Gwneud i gydweithio weithio
Gwnaethom restru'r ffactorau llwyddiant allweddol canlynol i helpu'r gwasanaethau brys i wneud newidiadau i wella cydweithredu.
- Arweinyddiaeth weladwy sy'n blaenoriaethu pwysigrwydd cydweithio.
- Bod yn glir sut mae cydweithio'n cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at fwrw ymlaen â gweledigaeth a strategaeth pob asiantaeth.
- Cyd-destun y rhesymau dros newid – sut mae materion demograffig, cymdeithasol, ariannol a gwleidyddol yn gofyn am ymatebion gwahanol gan wasanaethau yn yr 21ain Ganrif.
- Bod yn agored am y meysydd posibl o wrthdaro a wynebu'r rhain yn uniongyrchol drwy eu trafod, eu hasesu a'u rheoli'n agored.
- Sefydlu protocolau clir ynghylch ymddygiadau, rheoleidd-dra cyfarfodydd, rhannu gwybodaeth a data, cyllid ac atebolrwydd.
- Sefydlu cyd-ddealltwriaeth, a gwerthfawrogiad, o gylch gwaith a chyfyngiadau cydweithredu.
- Y gallu i ymrwymo amser, egni ac adnoddau (gan gynnwys amser uwch arweinwyr) i gynnal momentwm a darpariaeth.
- Gwerthfawrogi safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth a'u cynnwys wrth nodi ble y gall cydweithio wella eu profiad.
- Hyrwyddo pwysigrwydd a manteision cydweithio yn y 'rheng flaen' a chyfathrebu/esbonio pam mae'n bwysig.
- Creu mesurau llwyddiant sy'n eich galluogi i ddangos effaith a gwerth am arian, a gwerthuso ac adrodd ar berfformiad yn rheolaidd yn erbyn y rhain.
Related News

Data Analytics Tools
-
Cydweithio Rhwng y Gwasanaethau BrysRydym wedi cynhyrchu'r offeryn data hwn i gefnogi ein hadroddiad ar Gydweithio rhwng y Gwasanaethau Brys yng Nghymru. Mae adroddiad rchwilio Cymru i'w weld ar einTool Published