Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae gan y gwasanaethau brys yng Nghymru hanes hir o gydweithio, ond mae angen newid sylweddol er mwyn iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau

25 Ionawr 2022
  • Mae gweithio mewn partneriaeth mewn modd arloesol wedi helpu i arbed arian ac wedi lleihau amseroedd ymateb lleol, ond mae mwy y gellir ei wneud.

    Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae disgwyl i’r gwasanaethau brys gydweithio’n fwy byth i wneud gwell defnydd o adnoddau a chynyddu eu heffaith i’r eithaf.

    Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru wedi bod yn arwain o ran cadw pobl ac eiddo’n ddiogel mewn ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau – o stormydd a llifogydd difrifol i ddamweiniau traffig a thanau. Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn cydweithio’n agos i ddarparu gwasanaeth gwell ar gyfer y cyhoedd am flynyddoedd lawer. Mae mentrau arloesol mewn partneriaeth wedi arbed arian a lleihau amseroedd ymateb lleol. Cyflogir dros 20,000 o bobl ac mae’r gyllideb i redeg gwasanaethau brys yng Nghymru’n fwy nag £1 biliwn yn flynyddol. Fodd bynnag, mae disgwyliadau cynyddol gan Lywodraeth Cymru a gofynion polisi a deddfwriaeth yn golygu bod disgwyl i wasanaethau brys gydweithio llawer mwy.

    Mae’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys, sy’n dwyn ynghyd uwch arweinwyr o wasanaethau ‘golau glas’, yn dal i fod â rôl arweiniol o ran cydlynu gwasanaethau brys ac mae’r cydweithrediad rhwng aelodau’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys wedi helpu i feithrin perthnasoedd gweithio agosach. Fodd bynnag, ar raddfa gyfyngedig y mae’r cydweithio wedi bod ar y cyfan ac mae cyfleoedd i rannu mwy o adeiladau, cydleoli gwasanaethau, gwneud defnydd gwell o fflyd a chreu mwy o swyddi ar y cyd.

    I helpu i yrru’r agenda cydweithio yn ei blaen, fe sefydlwyd Bwrdd Cydweithio Strategol a oedd hefyd wedi’i fwriadu i adnabod cyfleoedd pellach i’r gwasanaethau brys gydweithio. Fodd bynnag, nid yw cynlluniau’r Bwrdd Cydweithio Strategol yn ddigon cadarn ar hyn o bryd gan nad oes adnoddau wedi’u neilltuo iddynt i yrru newid yn ei flaen. Mae blaenoriaethau eglur yn dal heb gael eu hadnabod mewn rhai meysydd ac nid yw gwaith prosiect wedi cael ei gostio’n llawn eto.

    Rydym wedi rhestru argymhellion yn ein hadroddiad, sydd wedi’u bwriadu i helpu’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys i gynyddu i’r eithaf y cyfleoedd i wneud defnydd gwell o adnoddau ac amddiffyn pobl Cymru a’u cymunedau. Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar brotocolau rhannu data a hyfforddiant, adolygu cynlluniau ffrydiau gwaith gan gynnwys trefniadau rheoli prosiectau, a sefydlu targedau i ddangos gwerth am arian. Rydym hefyd yn argymell bod y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yn gweithredu i hyrwyddo’i waith yn y gorffennol a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

    I'w helpu i werthuso eu rhaglenni gwaith, rydym wedi creu offeryn data [sy’n agor mewn ffenestr newydd] fel bod gwasanaethau brys yn gallu adnabod ble y mae angen gwneud gwelliannau.  

    ,
    Mae gan y gwasanaethau brys hanes hir o gydweithio ac maent yn parhau i helpu i gadw pobl yng Nghymru’n ddiogel. Mae eu mentrau partneriaeth arloesol wedi helpu i arbed arian, wedi lleihau amseroedd ymateb lleol, ac wedi cyfrannu at amddiffyn y cyhoedd. Er gwaethaf hyn, mae disgwyliadau cynyddol polisi cyhoeddus a deddfwriaeth yn golygu bod angen iddynt gydweithio’n fwy byth i wneud gwell defnydd o’u hadnoddau a mynd ati go iawn i gynyddu eu heffaith i’r eithaf. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cydweithio rhwng y Gwasanaethau Brys

    View more