Gyda'n gilydd gallwn – creu'r amodau i rymuso ein cymunedau i ffynnu

18 Rhagfyr 2023
  • Bydd y digwyddiad dysgu ar y cyd hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth. Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o ddulliau gweithredu gan sefydliadau yng Nghymru a'r DU sy'n cael effaith wirioneddol ar draws cymunedau.

    Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi wynebu pwysau sylweddol, gan ddelio ag argyfwng ar ôl argyfwng, sydd wedi newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Gwnaeth gyni roi gallu llywodraeth leol i newid ac ymateb ar brawf.

    Addasodd awdurdodau lleol yn dda wrth ymateb i'r her hon, gan ddyfeisio a gweithredu ystod o fesurau effeithlonrwydd a oedd yn lleihau cost gwasanaethau, ond hefyd dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio.

    Ond erbyn hyn, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu eu heriau mwyaf sylweddol ers cenhedlaeth. Eisoes mae gan Gymru rhai o'r lefelau tlodi mwyaf a dyfnaf ym Mhrydain Fawr ac mae cymunedau'n wynebu argyfwng costau byw. Ynghyd â rhagolygon ariannol heriol a phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n amlwg y bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gynnal gwasanaethau a pharhau i ategu'r gymuned ehangach ac yn arbennig y rhai sydd fwyaf mewn angen.

    Gwnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar. Roedd ein hadroddiad cyntaf yn darparu llinell sylfaen sy'n dangos mai tlodi yw'r her fawr sy'n wynebu pob haen o lywodraeth. Gyda'r cyd-destun hwn mewn golwg, edrychodd ein hail adroddiad ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithio i dyfu ac ehangu mentrau cymdeithasol i helpu llywodraeth leol i ddarparu mwy o wasanaethau a lleihau'r galw. Yn olaf, canolbwyntiodd ein trydydd adroddiad ar ddeall sut mae awdurdodau lleol yn creu'r amodau sydd eu hangen i drawsnewid ffyrdd o weithio a grymuso cymunedau i ffynnu mor annibynnol â phosibl.

    Nod ein hargymhellion yw ategu awdurdodau lleol i ddefnyddio ein hadroddiad i hunan-werthuso cyfathrebu, rheoli, perfformiad ac ymarfer cyfredol er mwyn nodi lle mae angen gwella.

    Title Size Link
    SURF 1.53 MB Link
    Archwilio Cymru 959.64 KB Link
    Cwmpas 744.71 KB Link
    Elite 4.23 MB Link