Dyfodol Diamod 2021 Chwilio am ddulliau newydd o'ch helpu i addasu mewn cyfnod o argyfwng? Mae ein cynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2021 yn ôl ac yma i roi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus. Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a sut mae gweithwyr cyllid proffesiynol wedi addasu.
Adfywio Canol Trefi - Gweminar i Aelodau Etholedig Adfywio Canol Trefi – Gweminar i Aelodau Etholedig Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Adfywio Canol Trefi. Ochr yn ochr â'r adroddiad, ceir offeryn data ac offeryn hunanarfarnu hefyd.
Llamu Ymlaen - Defnyddio profiadau uniongyrchol er mwyn adeiladu dyfodol cydnerth Mae’r digwyddiad yma yn cyd-fynd â’n hadolygiad Camu Ymlaen gan archwilio sut mae posib defnyddio profiadau uniongyrchol i adeiladu cydnerthedd i’r dyfodol. Wrth i Covid-19 barhau i gael effaith, yn wyneb newid hinsawdd a’r cyfleoedd sy’n codi o drawsffurfio digidol, sut mae esblygu sefydliadau gwydn sydd yn defnyddio eu hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol gan addasu mewn ymateb i’r heriau sydd heb ddod i’r amlwg eto?