Dyfodol Diamod ...Cyllid sy'n cyfrif

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd y digwyddiad ar y cyd yma yn gyfle i ddysgu mwy am y newidiadau a’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, yn ogystal â chlywed gan uwch-arweinwyr y wlad ac adeiladu rhwydweithiau rhanbarthol.

Cynhalwyd y gynhadledd gan sefydliadau ledled y sector a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Roedd rhain yn cynnwys GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru a’r sectorau addysg bellach ac uwch.

Dylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Aml-ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yw’r rheiny sydd â chyswllt cyson gyda gwasanaeth cyhoeddus penodol neu gyfres ohonynt. Maent yn cyfrannu’n helaeth at y galw ar wasanaethau sy’n arwain at gostau anferth o ran amser ac adnoddau. Gall hyn greu risg o wasanaethau’n methu â chwrdd ag argyfwng.

Gweminar Gwireddu Buddiannau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwario miliynau o bunnoedd ar brosiectau na chânt fyth eu gorffen. Yn aml, nid oes a wnelo'r rheswm unrhyw beth ag ansawdd y targedau cyflawnadwy. Yn amlach na pheidio nid oes yr amser, yr egni na'r brwdfrydedd i wneud yn siŵr y caiff y cynnyrch neu'r gwasanaeth ei fabwysiadu a'i ymgorffori yn y sefydliad. Mae'n ymwneud â Thîm y Rhaglen a Rheoli Prosiect sydd wedi symud ymlaen i'r prosiect nesaf neu sydd wedi diddymu yn amlach na pheidio.