Integreiddio Technoleg Gwybodaeth drwy Safonau Agored

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Safonau Agored yn ei gwneud yn haws i systemau gydweithio â'i gilydd a chyfnewid data. Gallant helpu gwasanaethau cyhoeddus i integreiddio, i gydweithredu ac i gymryd golwg hirdymor ar gaffael a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma dair o'r pum ffordd o weithio sy'n ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
 
Mae adrannau Technoleg Gwybodaeth gwasanaethau cyhoeddus yn draddodiadol wedi prynu meddalwedd berchnogol. Gall fformatau allbwn aneglur y systemau hyn yn aml olygu bod sefydliadau yn glwm wrth gontractau.