Gweminar caffael cynaliadwy

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dros y degawd nesaf bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwario dros £ 60 biliwn wrth gaffael ystod o nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Beth mae angen i gyrff cyhoeddus ei wneud yn wahanol i sicrhau, trwy gaffael cynaliadwy, y gellir gwario'r arian hwn mewn modd sy'n darparu manteision ehangach i Gymru?

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Camau Bach, Newid Mawr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Edrychodd gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod y llynedd [Agorir mewn ffenest newydd] ar elfennau allweddol ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan bwysleisio gwybodaeth, ymwybyddiaeth ac ymddygiad. Byddwn yn trafod y materion hyn ymhellach ynghyd â thrafod sut i’w cymhwyso.

Symud o allbynnau i ganlyniadau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gyd wedi rhoi pwyslais pellach ar yr angen i gyrff cyhoeddus fesur canlyniadau yn hytrach nag allbynnau.