Gweminar: Gadewch i ni siarad am ddiogelwch seiber

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae seiber-ymosodiadau yn ddigwyddiadau bob dydd ledled y byd. Yn ddealladwy, mae diogelwch seiber yn derm sy'n aml yn gwneud i bobl deimlo'n nerfus. Mae diogelwch seiber yma i aros, ac mae angen i ni fod yn gyfforddus â beth yw ystyr hyn ar gyfer ein sefydliadau. Nid yw diogelwch seiber yn rôl arbenigol yn unig, rydym ni i gyd yn chwarae rhan wrth sicrhau bod ein sefydliadau yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau.

Cefnogi pobl yn eu cymunedau: Lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dyma’r gwirionedd... mae’r GIG yn delio gyda dros 1 miliwn o gleifion bob 36 awr. *

Cafwyd cyfanswm o 16.252 miliwn o dderbyniadau i’r ysbyty yn 2015/16, 28% yn fwy na deg yn gynharach (12.679 miliwn). Gyda disgwyl i boblogaeth y DU gynyddu o tua 64.6 miliwn yng nghanol 2014 i 69.0 miliwn erbyn 2024 a 72.7 miliwn erbyn 2034, mae’r niferoedd hyn yn debygol o gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. *