Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Comisiynu gwasanaethau

  • Person yn gweithio ar liniadur mewn swyddfa
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Adolygiad thematig ym mhob un o'r 22 prif gyngor sy'n edrych ar eu trefniadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau. Bydd yr adolygiad hwn yn arwain at adroddiad lleol ar gyfer pob cyngor ac yna adroddiad cryno cenedlaethol ar ôl i waith lleol ddod i ben.

    Pam rydyn ni'n ei wneud

    Rhoi sicrwydd bod gan gynghorau drefniadau priodol i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau, a'u bod yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn ogystal ag esbonio sut mae cynghorau yn mynd ati i gomisiynu ac ysbrydoli cyrff y sector cyhoeddus drwy rannu enghreifftiau o arfer nodedig lle bo hynny'n berthnasol.

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Gwanwyn 2025