Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cydnabyddiaeth am Iechyd a Llesiant yn y Gweithle
Dyfarnwyd safon iechyd corfforaethol efydd i Swyddfa Archwilio Cymru – fel rhan o Raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Mae'r dyfarniad, sy'n safon ragoriaeth gydnabyddedig, yn dangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd a llesiant.
Mae Iechyd a Llesiant yn allweddol i lwyddiant pob sefydliad am ei fod yn gwella perfformiad a morâl. Mae'n annog cadw staff ac yn denu staff o ansawdd uchel. Mae llesiant yn cynnwys iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol ac mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos cryfder gwirioneddol ym mhob un o'r meysydd hyn. Mae hefyd yn ymrwymedig i barhau i gyflawni newid cynaliadwy gwirioneddol i gynorthwyo'r nod o wneud y sefydliad yn “lle gwych i weithio.”
Er mwyn cyrraedd y safon, cafodd Swyddfa Archwilio Cymru asesiad, a ystyriodd y meysydd canlynol: Cymorth sefydliadol: Ymrwymiad uwch swyddogion; ymgysylltu â chyflogeion; rheoli iechyd a diogelwch; iechyd, gwaith a llesiant; monitro, gwerthuso ac adolygu.
Materion Iechyd Penodol: Tybaco; iechyd a llesiant meddyliol; anhwylderau cyhyrysgerbydol; camddefnyddio alcohol a sylweddau; iechyd a llesiant bwyd; gweithgarwch corfforol.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:
“Rwy'n credu ei bod yn wych bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyrraedd y Safon Iechyd Corfforaethol Efydd yn ein hymgais gyntaf, gyda'r aseswyr yn tynnu sylw at amrywiaeth o arfer da ar draws y busnes. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff ac arweinwyr ar draws y sefydliad. Rydym yn ymrwymedig i gynnal y momentwm a'r brwdfrydedd hyn a pharhau i gyflawni newid cynaliadwy hirdymor.”