Pryderon difrifol ynghylch trefniadau llywodraethu mewn perthynas â thaliadau i Gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru

Pryderon difrifol ynghylch trefniadau llywodraethu mewn perthynas â thaliadau i Gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru
Llun o chwyddwydr gyda testun  Adroddiad er budd y cyhoedd

Roedd cost y taliad setlo a ffioedd cyfreithiol ac ymgynghorol cysylltiedig yn agos at £750,000.

Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gallu dangos iddi weithredu er ei budd pennaf fel elusen na bod y setliad yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus.

Cafodd anghydfod cyflogaeth a oedd yn ymwneud â Chyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol a Chyn-Lywydd Amgueddfa Cymru ei ddatrys trwy gytundeb setlo ar gyfer y Cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol. Mae cost bosibl y cytundeb yn fwy na £325,000, gyda chostau cyfreithiol a chostau eraill cysylltiedig yn gyfanswm o £420,000 arall. Cafodd yr anghydfod ei hwyhau’n ddiangen gan ddiffygion yn y mecanweithiau a oedd ar waith i ymdrin â materion o’r natur yma, a all fod wedi arwain at gost ychwanegol sylweddol i bwrs y wlad.

Mae canfyddiadau allweddol adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys:

  • Diffyg Polisïau Digonol: Nid oedd gan Amgueddfa Cymru’r polisïau angenrheidiol i ymdrin â phryderon a godwyd gan uwch swyddogion ac aelodau anweithredol o’r Bwrdd.
  • Trefniadau Llywodraethu a Phenderfynu: roedd agweddau ar drefniadau llywodraethu Amgueddfa Cymru, a’r broses ar gyfer datrys yr anghydfod, yn ddiffygiol.
  • Defnydd Amheus o Arian Cyhoeddus: Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gallu dangos iddi weithredu er budd pennaf yr elusen na bod setliad a allai gostio cyfanswm o £325,698 yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus.
  • Ymwneud Aneglur gan y Llywodraeth: Mae’n aneglur a ddilynwyd yr holl weithdrefnau perthnasol ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth i’r cytundeb gan Lywodraeth Cymru.
Mae fy adroddiad yn disgrifio gwendidau mewn trefniadau llywodraethu a pherthnasoedd ar y lefel uchaf mewn sefydliad cyhoeddus pwysig. Mae datrys y sefyllfa honno wedi costio swm sylweddol o arian i bwrs y wlad, a allai fod wedi cael ei osgoi. Gobeithio bod fy adroddiad yn fodd i atgoffa’r holl gyrff cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd rhoi fframweithiau ac egwyddorion llywodraethu ar waith mewn modd priodol i ddiogelu arian cyhoeddus a hyder y cyhoedd.
Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol