Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r perfformiad yn amrywio ledled Cymru ond nid yw yr un bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed presennol ar gyfer amserau aros ers 2020
Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a chliriach ar frys i wella gwasanaethau canser, ynghyd â mwy o bwyslais ar atal, yn ôl adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn archwilio cydlyniad y trefniadau cenedlaethol i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau canser yng Nghymru.
Canfu’r adroddiad, er gwaethaf mwy o fuddsoddi, fod methiant parhaus i gyrraedd y targed perfformiad cenedlaethol, sef y dylai 75% o gleifion canser ddechrau eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod. Nid yw’r un bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed ers mis Awst 2020, ac nid yw’r targed erioed wedi'i gyrraedd ar lefel Cymru gyfan. Gwaethygodd y perfformiad wedi'r pandemig ac mae wedi bod yn sefydlog ers dechrau 2022 gyda rhwng 52% a 61% yn dechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed. Mae amseroedd aros ar gyfer rhai mathau o ganser (canserau gastroberfeddol is, gynaecolegol ac wrolegol) yn arbennig o hir, ac mae rhai cleifion yn aros dros 100 diwrnod i ddechrau triniaeth.
Mae canfod a chael diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi’r rhan fwyaf o ganserau. Mae sgrinio yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod yn gynnar. Yn gadarnhaol, mae'r rhaglen sgrinio’r coluddyn genedlaethol wedi ehangu i gynnwys mwy o bobl gan ddefnyddio prawf mwy sensitif. Mae yna gyfleoedd i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio'r fron a sgrinio serfigol ac i wneud penderfyniad am raglen sgrinio'r ysgyfaint genedlaethol.
Mae canlyniadau goroesi canser yng Nghymru wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn dal yn wael o'u cymharu â gwledydd eraill. Cymru sydd â'r gyfradd uchaf ond un o farwolaethau canser yn y DU ar ôl yr Alban. Mae cyfraddau goroesi yn waeth i bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig o gymharu ag ardaloedd mwy cefnog.
Mae'r galw cynyddol am ddiagnosis a thriniaeth canser yn her sylweddol i GIG Cymru. Mae nifer y canserau sydd newydd gael diagnosis wedi cynyddu 22% rhwng 2002 a 2021. Mae nifer yr atgyfeiriadau lle amheuir canser hefyd wedi cynyddu. Mae'r atgyfeiriadau hynny'n creu'r galw er bod mwy nag 84% o gleifion sy'n cael eu cyfeirio pan fo amheuaeth bod canser arnynt yn darganfod wedyn nad oes ganddynt ganser.
Mae heriau hefyd yn gysylltiedig â bylchau mewn capasiti staffio.
Mae'r rhestr aros ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser wedi parhau i gynyddu. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r rhestr aros ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn dangos bod hyn yn annhebygol heb gynnydd sylweddol mewn diagnosis a thriniaeth.
Mae ymdrin â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru yn gofyn am arweinyddiaeth genedlaethol gref a chlir. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cyfeirio at wendidau yn y maes hwn ac yn benodol at ddiffyg eglurder ynghylch statws Cynllun Gwella Canser Cymru a lansiwyd yn 2023. Mae hefyd yn galw am fwy o eglurder ynghylch priod rolau Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG wrth oruchwylio a chefnogi gwelliant.
Gellir atal tua phedwar o bob deg canser bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cyfleoedd sylweddol i achub bywydau a lleihau'r pwysau ar adnoddau'r GIG drwy ymdrin â ffactorau ffordd o fyw sy'n cynyddu'r risg y bydd rhai mathau o ganser yn digwydd yn y man cyntaf. Mae'r cyfleoedd hynny'n mynd y tu hwnt i atal canser oherwydd bod llawer o'r ffactorau risg ffordd o fyw ar gyfer canser hefyd yn ffactorau risg ar gyfer prif gyflyrau eraill sy'n effeithio ar les pobl ac yn defnyddio llawer iawn o adnoddau'r GIG.
Mae Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru, nodi llwybrau sydd wedi'u hoptimeiddio'n genedlaethol a chyhoeddi Cynllun Gwella Canser i gyd yn enghreifftiau o ymrwymiad clir i sicrhau gofal canser o ansawdd uchel i bobl Cymru. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, a mwy o fuddsoddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl yn wynebu amseroedd aros annerbyniol o hir am ddiagnosis a thriniaeth canser. Mae amrywiadau o ran perfformiad a chanlyniadau yn parhau o fewn cyrff iechyd yng Nghymru a rhwng cyrff iechyd yng Nghymru, ac nid oes digon o sylw yn cael ei roi ar atal y ffactorau ffordd o fyw a all achosi canser a chyflyrau iechyd mawr eraill. Mae angen egluro a chryfhau'r trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol a goruchwylio gwasanaethau canser yng Nghymru fel mater o frys. Mae’n rhaid i hyn gynnwys datganiad clir ar statws Cynllun Gwella Canser GIG Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio, ochr yn ochr â rhaglenni a mentrau eraill, i lunio'r gwelliannau sydd eu hangen arnom mewn gwasanaethau canser yng Nghymru.