Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r galw cynyddol am ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer canser yn her sylweddol i GIG Cymru.

    Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i roi diagnosis a thrin cleifion canser er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod y cyfeiriad cenedlaethol, cefnogi cyflawni, a dwyn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i gyfrif am eu perfformiad.

    Mae’r perfformiad yn amrywio ledled Cymru ond nid yw’r un bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed presennol ar gyfer amserau aros ers 2020

    Er gwaethaf mwy o fuddsoddi, mae methiant parhaus i gyrraedd y targed perfformiad cenedlaethol ar gyfer canser, gyda lleiafrif o gleifion yn wynebu amserau aros annerbyniol ar gyfer diagnosis/triniaeth.

    Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a chliriach ar frys i helpu i ysgogi’r gwelliannau angenrheidiol yn amseroldeb a chynaliadwyedd diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser.

    I unrhyw un y gallai cynnwys yr adroddiad effeithio arnynt, mae llawer o elusennau yn cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd yng Nghymru. Gellir dod o hyd i fanylion yng Nghynghrair Canser Cymru [agor i'r mewn ffenestr newydd]

    ,
    ,
    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Llawer o gleifion canser yn aros yn rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth

    Gweld mwy
CAPTCHA