Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid na’r disgwyl trwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a gormod o optimistiaeth ynghylch pa mor hir y byddai’r rhai a oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol arwain at gostau uwch
Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i’r rhai a oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i’r DU. Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, fe benderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid fel un o uwch-noddwyr ‘Cartrefi i Wcráin’ a oedd yn golygu nad oedd angen i bobl gael eu paru â lletywr cyn cael fisa.
Ym Trwy gadw’r cynllun uwch-noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi’r 1,000 o newydd-ddyfodiaid y dywedodd y byddai’n eu helpu yn ystod cyfnod cychwynnol yr ymateb brys. Fe wnaeth hyn er gwaethaf y posibilrwydd y byddai nifer sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd mewn gwirionedd, fel a ddigwyddodd.
Erbyn mis Hydref 2023, roedd y cynllun uwch-noddwr yn gyfrifol am 3,232 – 45 y cant – o’r 7,118 o newydd-ddyfodiaid Wcreinaidd â lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun.
Mae’r adroddiad yn canfod, ar y cyfan, bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cydweithio’n dda i helpu Wcreiniaid i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd, er y bu rhai problemau mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd. Bu gan Ganolfan Gyswllt rôl hanfodol o ran cydgysylltu newydd-ddyfodiaid a rhoi cyngor.
Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o Ganolfannau Croeso a llety cychwynnol arall. Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor yn lletya 1,840 o bobl. Erbyn mis Ionawr 2024, roedd hynny wedi gostwng i 4 safle, yn lletya 128 o bobl. Dim ond dau safle y bwriedir iddynt aros ar agor yn 2024-25.
Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai’n costio oddeutu £18 miliwn i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso. Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid ac arosiadau hwy na’r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall achosi i gostau gynyddu ar y cyfan ac fe ychwanegodd bwysau ar wasanaethau cyhoeddus ehangach. Roedd costau llety’n amrywio’n sylweddol ond gwelodd archwilwyr dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru’n ceisio sicrhau gwerth am arian.
Gwariodd Llywodraeth Cymru £61 miliwn ar yr ymateb i Wcráin yn ystod 2022-23, gan gynnwys costau llety a chostau eraill. Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y DU, mae Archwilio Cymru’n amcangyfrif bod y gost net i Lywodraeth Cymru’n £29.2 miliwn o leiaf.
Mae costau llety is yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n disgwyl gwario £35.7 miliwn neu lai yn 2023-24, gyda’r mwyafrif yn cael ei ariannu o’i chyllideb ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllidebu £4.5 miliwn ar gyfer 2024-25, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol. Mae’r sefyllfa tymor hwy ar gyfer Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.
Darllenwch ein hadroddiad cryno
Читайте наш звіт українською мовою
Читать наш итоговый отчет на русском языке