Gwneud cwyn

Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif a byddwn yn ceisio ymateb i unrhyw adborth cyn gynted â phosib.

Sut i gwyno

Os yw eich cwyn o fewn ein maes o ystyriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy'r canlynol:

Rhif ffôn: 029 2032 0500

E-bost: cwynion@archwilio.cymru

Yr hyn y gallwch gwyno amdano

Mae yna nifer o faterion y byddwn yn ystyried cwynion amdanynt. Gallwch lawrlwytho ein taflen arweiniad i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.