Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o'r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.
Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau mawr ar gyllid y sector gyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol a chael effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl allweddol wrth gyflawni hyn. Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.
I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru.
Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.
Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol, Grant Thornton
Paul yw awdur ‘Preventing failure in Local Government’. Bydd yn trafod pwysigrwydd bod â dealltwriaeth glir o achosion cyffredin methiannau, yn ogystal a sut mae’n yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i awdurdodau lleol eraill, cyrff llywodraeth leol ac ar gyfer llywodraeth ganolog er mwyn atal methiannau i’r dyfodol
Cyfle i rannu ac i ddysgu gan gyfoedion mewn grwpiau dysgu bychain, gan drafod y cwestiwn ‘sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?’
Tîm ymchwil a Datblygu, Archwilio Cymru
Dadansoddiad Gwraidd yw’r broses o ganfod yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn adnabod atebion addas. Bydd ein tîm Ymchwil a Datblygu yn eich tywys trwy astudiaeth achos fel enghraifft (Tramiau Caeredin) fydd yn galluogi’r rhai sydd yn cymryd rhan i ennill profiad o ddefnyddio’r dull Dadansoddi Gwraidd.
Trafodaeth banel wedi ei gadeirio gan Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru. Bydd ein panel yn adlewyrchu ar brif themâu’r diwrnod gan roi sylw arbennig i’r heriau mawr sydd ar y gorwel. Hefyd, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chynnal trafodaeth.
Ym mis Mawrth 2018, cafodd Adrian ei argymell gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w benodi'n Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe'i penodwyd yn ffurfiol i'r swydd gan EM Y Frenhines o 21 Gorffennaf 2018.
Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Archwilio Cymru, mae'n arwain sefydliad o tua 270 o staff sy'n archwilio gwariant a pherfformiad y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £24 biliwn o arian trethdalwyr ac fe'i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.
Mae Jo yn uwch reolwr yn nhîm Archwilio Sector Cyhoeddus Grant Thornton, gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad ar draws llywodraeth leol a chanolog. Mae Jo yn arwain ar fewnwelediadau gwerth am arian llywodraeth leol Grant Thornton ac mae ei meysydd diddordeb arbennig yn cynnwys gwasanaethau oedolion a phlant; adenedigaeth; cludiant; cyfleustodau; sero net; a chaffael.