Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Camau Bach, Newid Mawr

15 Chwefror 2018
  • Yn dilyn ein gweminar diwethaf, bydd y nesaf yn y gyfres ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn symud trywydd y sgwrs tuag at y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dull rhyngweithiol o ddelio â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

    Edrychodd gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod y llynedd [Agorir mewn ffenest newydd] ar elfennau allweddol ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan bwysleisio gwybodaeth, ymwybyddiaeth ac ymddygiad. Byddwn yn trafod y materion hyn ymhellach ynghyd â thrafod sut i’w cymhwyso.

    Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor adroddiad [Agorir PDF mewn ffenest newydd] ar sut y gall ffynonellau cadernid gan unigolion a chymunedau ddiogelu'r pobl sy'n dioddef o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod rhag eu heffeithiau niweidiol ar iechyd meddwl.

    A ydych yn gwneud y gorau o'r hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd? Dysgwch beth yw dulliau sy'n cael eu llywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma, a sut y gallwch ddefnyddio hyn yn eich gwaith. Aseswch yr hyn rydych yn ei wneud yn barod a'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei drafod. Bydd cyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau i'r panel am bethau rydych yn cael trafferth â nhw.

    Ar gyfer pwy mae'r weminar

    Mae'r weminar hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chynllunio, comisiynu, a/neu ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

    Pryd

    12pm – 1:30pm

    Dydd Mawrth 12 Mehefin 2018

    Cofrestru

    I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein isod.

    Cylchredir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth drefnu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithwyr, rhowch eu henwau i ni fel y gallwn gofnodi presenoldeb yn gywir.

    I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details