Bydd pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg yn cael trafferth defnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen arnynt. Gall hyn fod am eu bod newydd gyrraedd y DU neu oherwydd nam synhwyraidd. Fodd bynnag, mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus yn un o 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Gwnaeth y seminar hon ddwyn ynghyd yr arferion diweddaraf o bob cwr o Gymru a'r tu hwnt. Wrth adael y seminar hon, bydd y cynrychiolwyr wedi rhannu a dysgu dulliau gwahanol o gyrchu gwasanaethau a gwybodaeth, a pham mae'r gofyniad hwn mor bwysig.
At bwy oedd y seminar wedi'i hanelu
Roedd y digwyddiad yma wedi ei hanelu at y sector cyhoeddus a staff o’r trydydd sector:
- deiliaid portffolios cydraddoldebau
- swyddogion cydraddoldebau
- arweinwyr polisi
- rheolwyr hygyrchedd gwefan, a
- staff sy'n gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr i'r DU, neu gwasanaethau i bobl â nam synhwyraidd neu sydd dan anfantais arall.
Cyflwyniadau
- Sut gall technoleg ddigidol helpu i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch [PDF 1.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Fiona Maclean/ Alison Johnstone, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Cefnogi tenantiaid yn y gymuned - Bex Gingell a Tim Entwhistle, Cymdeithas Tai Taf
- Gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwella mynediad at wasanaethau iechyd [PDF 1.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Dr Gareth Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a John Gilchrist, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
Cyfryngau cymdeithasol