Hwn oedd yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Y Lab, Llywodraeth Cymru ac Arfer Da Cymru.
Yn aml, gall y dull digidol wella gwasanaeth cwsmeriaid fel bod gwasanaethau'n bodloni disgwyliadau'r defnyddiwr. Gall hefyd wella elfen weinyddol gwasanaeth, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon.
Mae awdurdod a gwybodaeth yn aml yn cael eu gwahanu mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnaeth y seminar hon grymuso'r mynychwyr i arwain yr agenda newid yn eu sefydliadau. Edrychodd ar yr hyn sydd eisoes ar gael yn ddigidol, yn rhannu arfer da ac yn edrych ar gymhwyso egwyddorion digidol yn ehangach. Nid yw'n ymwneud â symud gwasanaethau i lwyfannau digidol, ond yn hytrach ystyried sut gellir ailddylunio gwasanaethau fel eu bod wedi'u hintegreiddio'n well, yn cael eu cyflwyno'n ddoethach ac o safon uwch. Mae hyn yn gofyn am newid mewn meddylfryd a gwella sgiliau staff gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cyflwyno gwasanaethau'n wahanol.
Gan ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fe wnaeth y seminar hon cynnig cyfle pwysig. Galluogodd gwasanaethau cyhoeddus i ddod at ei gilydd er mwyn ailddylunio gwasanaethau y mae'r defnyddiwr gwasanaeth a'r boblogaeth ehangach yn ganolig iddynt. Mae'n bwysig bod sefydliadau'n dechrau meddwl am sut gall y dull digidol gyfrannu i'r saith nod llesiant a amlinellir yn y ddeddf.
Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer
Ar gyfer y seminar hon, fe wnaethom dylunio personâu cyfranogwyr gyda'r Lab, sydd wedi'u seilio ar ei waith ar y Gronfa Arloesedd Digidol. Roedd cyfranogwyr yn un o'r canlynol:
- Staff, aelodau etholedig ac aelodau anweithredol sydd am i'w staff gyd-dynnu â gweledigaeth a chyfeiriad y sefydliad
- Staff sydd am i'w gwasanaethau fod yn fwy ystwyth ac ymatebol i anghenion defnyddwyr
- Staff sy'n gweithio ar draws ffiniau gwasanaethau cyhoeddus
- Staff sy'n meddwl y gall y dull digidol gael ei ddefnyddio i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus
- Staff sy'n chwilio am lwybrau cyflymach a mwy effeithlon ar gyfer llawer o'r gwasanaethau y mae'r cyngor yn eu cyflwyno
- Staff sy'n ystyried sut y gall diwygiadau digidol arwain at arbedion effeithlonrwydd ac arbedion eraill
- Pobl sy'n gwneud penderfyniadau sydd am gysylltu â'r bobl sy'n gwybod sut mae gwneud i drawsnewid digidol ddigwydd a'u cefnogi â'r lefel iawn o fuddsoddiad
Cyflwyniadau
-
Dylanwadu ar newid [PDF 1.46MB Agorir mewn ffenest newydd] - Kelly Doonan, Cyngor Sir Dyfnaint
-
Sbarduno newid digidol [PDF 1.68MB Agorir mewn ffenest newydd] - Stephen Lisle a Dyfrig Williams, Swyddfa Archwilio Cymru
-
Symud o reoli rhaglenni i addasu digidol [Agorir mewn ffenest newydd] - Esko Reinikainen, Y Satori Lab
-
Sut mae ymrwymo uwch-reolwyr mewn trawsnewid digidol yn edrych... (a sut allwch roi hwp iddo i'r cyfeiriad cywir?) [PDF 2.07MB Agorir mewn ffenest newydd] - Chris Bolton, Swyddfa Archwilio Cymru
Cyfryngau cymdeithasol