Ail-lunio gwasanaethau gyda'r cyhoedd

14 Mai 2014
  • Newid y berthynas rhwng y sawl sy’n darparu gwasanaethau a’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau.

    Trawsgrifiad Fideo (Word)

    Rydym yn cynnal seminar rhad ac am ddim ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda'r Cyhoedd: Newid y berthynas rhwng y sawl sy’n darparu gwasanaethau a’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau. Caiff y seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.

    Caiff llawer o wasanaethau cyhoeddus eu darparu o hyd o safbwynt y sawl sy’n darparu un gwasanaeth yn unig. Mae hynny’n golygu bod dinasyddion yn profi llawer o wahanol ddulliau gweithredu tameidiog a all arwain at:

    • ymyriadau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd neu sy’n gwrthdaro â’i gilydd
    • canlyniadau gwael i’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau
    • sefyllfa lle caiff adnoddau gwerthfawr eu gwastraffu a lle ceir gwerth gwael am arian.

    Bydd y seminar hwn yn cynnig enghreifftiau o sut y mae’r berthynas rhwng y sawl sy’n darparu gwasanaethau a’r sawl sy’n defnyddio gwasanaethau wedi newid, a bydd yn cynnwys enghreifftiau megis trefniadau cydgynhyrchu a mentrau cymdeithasol. Rhoddir pwyslais ar rannu profiadau ymarferol o sut y gall cydberthnasau gwahanol helpu i ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.

    Mae’r seminar wedi’i anelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

    Bydd y seminar yn cynnwys sesiwn arddangos lawn:

    Yn y De cafodd mynychwyr y ddewis o fynychu dau o’r gweithdai canlynol:

    Noder mai dim ond yn Saesneg mae'r cyflwyniadau hyn ar gael. 

    Yn y Gogledd bydd mynychwyr yn cael y ddewis o fynychu dau o’r gweithdai canlynol:

    • Gweithdy gan Barod CIC – Alan Armstrong (PDF)
      Cwrdd yn y canol
    • Gweithdy gan Hazel Jukes, Beacons Creative 
      Beacons Creative 
    • Gweithdy gan Y Cynghorydd Richard Waters, Cyngor Tref Abergele a Rhodri Thomas, Cynnal Cymru
      Risg Berthnasol - Profiad Cyngor Tref Abergele o weithio gyda Phrosiect 'Gwreiddiau Cryfion'
    • Gweithdy gan Tanya Strange, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
      Gwasanaeth Gwirfoddoli C.H.A.a.T

    Gallwch ffeindio agenda y digwyddiad (PDF).

    Ble a phryd

    0900 - 1300 Mae digwyddiad Caerdydd nawr wedi pasio.
    Dydd Iau 17 Gorffennaf 2014
    Stadiwm Swalec, Caerdydd.

    Byddwn yn cynnal ail seminar yng Ngogledd Cymru yn mis Medi, gyda agenda diwygiedig wedi’i selio ar brofiadau yn seminar Caerdydd.

    0900 - 1300
    Dydd Iau 18 Medi 2014
    Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF

    Cofrestru

    Os hoffech chi sicrhau lle neu gofrestru eich diddordeb yn yr ail seminar, e-bostiwch: sharedlearningevent@wao.gov.uk. Mae nifer y llefydd wedi’i gyfyngu i bob sefydliad.

    Fel sefydliad cwbl ddwyieithog, rydym yn annog cynrychiolwyr i gyfrannu yn Gymraeg ym mhob un o’n digwyddiadau. Er mwyn i ni allu gwneud trefniadau, fyddech chi cystal â nodi eich dews iaith os gwelwch yn dda.

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details