Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu ar adolygiadau diweddar sy'n edrych ar effaith galwadau diangen ar Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru a'r hyn y maent yn ei wneud i'w lleihau.
Yn 2022-23, edrychom ar y ffordd y mae'r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru yn rheoli galwadau diangen mewn safleoedd annomestig.
Yn yr adroddiad cenedlaethol hwn, rydym yn tynnu sylw at ganfyddiadau a heriau allweddol yr adolygiadau lleol hyn o bob Awdurdod Tân ac Achub, yn ogystal â rhoi darlun cymharol o'r galw ac ymatebion gwahanol ledled Cymru.
Canfuom fod anghysondebau o ran sut mae Awdurdodau Tân ac Achub yn ymateb i alwadau ffug, ac nad oes gan unrhyw FRA unrhyw ddull cynhwysfawr o fesur effaith y larymau tân ffug hyn.
Yn ein hadroddiad, rydym hefyd yn tynnu sylw at gyfeiriad polisi newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae ein hadroddiad hefyd yn edrych ar yr hyn y mae Awdurdodau Tân ac Achub eraill ledled y DU yn ei wneud.