clawr yr adroddiad efo testun Cyngor Cymuned Llanferres – Trefniadau caffael
Cyngor Cymuned Llanferres – Trefniadau caffael
07 Medi 2023
Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd wedi nodi bod Cyngor Cymuned Llanferres wedi methu â chadw at ei drefniadau Caffael ei hun yr oedd wedi'u sefydlu er mwyn sicrhau ei fod yn cael gwerth am arian.

Mae ein hadroddiad yn nodi diffygion sylweddol a systemig yn y ffordd y mae'r Cyngor yn caffael gwaith. Yn benodol, mae'r adroddiad yn nodi y gallai'r Cyngor fod wedi camarwain contractwyr a wnaeth gais am waith.

Nododd yr archwiliad ddiffygion sylweddol yn y ffordd yr oedd y Cyngor yn caffael gwaith maes chwarae Maeshafn mewn perthynas â'r prosiect hwn.

Yr hyn a chanfuom:

  • methodd y Cyngor â hysbysebu'r contract ar gyfer tendr ac yn hytrach aeth at gwmnïau unigol i ddarparu dyfynbrisiau;
  • yn dilyn derbyn dyfynbrisiau ar gyfer y cynllun gwreiddiol aeth y Cyngor at bumed contractwr posibl i ddarparu dyfynbris ar gyfer rhan o'r cynllun yn unig;
  • camarweiniodd y Cyngor y tri chwmni a oedd wedi darparu dyfynbrisiau i ddechrau pan ofynnodd am ddyfynbrisiau diwygiedig i eithrio gwaith paratoi tir.

Mae ein hadroddiad yn amlinellu sawl argymhelliad i gynorthwyo'r Cyngor i wella ei arferion caffael.

Related News

Diffygion sylweddol wedi’u canfod yn nhrefniadau rheolaeth ariannol a chadw cofnodion Cyngor Tref Rhydaman a Chyngor Cymuned Llanferres

Hoffem gael eich adborth